Rydyn ni’n hynod o falch o gyhoeddi bod y Prosiect Mentora Ffiseg wedi ennill gwobr ‘Rhagoriaeth mewn Cefnogi Llysgenhadon Myfyrwyr’ Ymddiriedolaeth Ogden ym mis Gorffennaf.

Ymddiriedolaeth elusennol yw Ymddiriedolaeth Ogden sy’n ‘bodoli i hyrwyddo addysgu a dysgu ffiseg.’ Maent yn annog myfyrwyr sydd newydd raddio i fynd i addysgu, gyda’r nod o ‘gynyddu’r nifer sy’n astudio ffiseg ôl-16 oed drwy gefnogi addysg ym maes ffiseg ac ymgysylltu â ffiseg… yn enwedig [o ran] y sawl sy’n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.’

Mae i genhadaeth Ymddiriedolaeth Ogden synergedd â’r hyn yr ydym yn ei gredu a’r hyn rydyn ni’n ei gefnogi yma yn y Prosiect Mentora Ffiseg, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar o gael ein cydnabod ganddynt.

Mae’r wobr yn cydnabod cefnogaeth yr enillydd i’r myfyrwyr hynny sydd mor hanfodol ar gyfer cynnal prosiectau allgymorth o’r fath. Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffordd rydym yn annog ac yn gofalu am y rhai sy’n cofrestru i fod yn fentoriaid gyda ni, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn natganiad ein cenhadaeth sy’n ymwneud â ‘rhoi profiadau addysgiadol a chyfoethog i’r myfyrwyr a’r mentoriaid’. Un o’n nodau allweddol yw cynyddu hyder a chyflogadwyedd mentoriaid.

Wrth dderbyn y wobr hon, mae’n amhosib peidio â dweud gair o ddiolch wrth nifer o bobl, a byddai’n amhosibl peidio â sôn am ein mentoriaid. Allwn ni ddim mynegi cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi pob un ohonyn nhw ac mae gweithio gyda nhw yn fraint. Maen nhw’n cynnal gwerthoedd y prosiect bob amser wrth iddyn nhw fynd â’n cenhadaeth i ysgolion a gweithio â phobl ifanc trwy gydol y flwyddyn ysgol. Fyddai’r prosiect ddim yn gallu bodoli hebddyn nhw, ac rydyn ni mor ddiolchgar am y ffyrdd maen nhw’n ein cefnogi ni, heb iddyn nhw hyd yn oed sylweddoli hynny.

Rydyn ni hefyd am fynegi ein diolch i’n holl brifysgolion partner am eu cefnogaeth, ein harianwyr a’n noddwyr, yn ogystal â phawb arall ar y tîm sy’n gwneud i’r prosiect ddigwydd mewn ffordd mor llyfn a llwyddiannus.

Y Tîm Mentora Ffiseg gyda’u gwobr

Daw’r wobr gyda grant o £1000, ac rydyn ni’n bwriadu trefnu dathliad ar gyfer ein holl fentoriaid presennol a blaenorol sydd wedi helpu i wneud y prosiect yn gymaint o lwyddiant, ac rydyn ni’n gyffrous i ailgysylltu â’n cynfyfyrwyr yn ogystal â gweld ein holl fentoriaid cyfredol gyda’i gilydd am, mae’n bosib, y tro cyntaf!