Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn gosod myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig hyfforddedig mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru i fentora ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol.

Mae’r cydweithio rhwng wyth prifysgol (Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Wrecsam, Phrifysgol De Cymru, a’r Brifysgol Agored) yn adeiladu ar lwyddiant sefydledig y Brifysgol sydd wedi ennill gwobrau cynllun Mentora ITM. Mae ein mentoriaid yn gweithio gyda myfyrwyr Blwyddyn 9 – 11 ledled Cymru i hyrwyddo cymwysterau ffiseg wrth gynyddu hyder a hunanymwybyddiaeth. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau partner.