Rwy’n falch o fod yn rôl Cydlynydd Cenedlaethol Prosiect Mentora Ffiseg dros yr 20 mis diwethaf. O ganlyniad i effaith Covid-19 ar amserlen ein hariannu, fodd bynnag, bydd fy nghytundeb yn dod i ben yr wythnos hon, yn anffodus.
Hoff atgofion
Ers dechrau’r prosiect, rwyf i wedi bod yn creu prosesau, yn denu ac yn hyfforddi mentoriaid (ddwywaith), yn cadw’r ddysgl yn wastad rhwng blaenoriaethau’r cydweithredwyr niferus ac yn datrys problemau logisteg. Dyma rai o’m hoff atgofion dros yr 20 mis diwethaf: Teithio i Frwsel gydag MFL Mentoring i ddathlu Dydd Gwŷl Dewi, lansio gwefan Mentora Ffiseg, disgyblion Ysgol Uwchradd Islwyn a mentoriaid Izzy a Lille a gynrychiolodd y prosiect ar y BBC, y ddau benwythnos hyfforddi (yn arbennig bwyta’r pizza), creu uned Lefel 4 ‘Cynyddu’r Ymgysylltu â Ffiseg trwy Fentora’ a fydd yn rhoi cymhwyster i’r mentoriaid sy’n ei chwblhau a’r adroddiad terfynol ardderchog a ddilysodd waith dyfal pawb oedd wedi cymryd rhan.
Er bod atgofion melys am y rhain gyda fi, y rhan fwyaf gwerthfawr o rôl y Cydlynydd Cenedlaethol yn fy marn i oedd cydweithio â mentoriaid o fyfyrwyr. Mae sawl mentor wedi dweud bod profiad yn y prosiect wedi bod yn allweddol wrth astudio ar gyfer PhD neu PGCE a chyflawni rolau eraill i raddedigion, ac mae hynny’n amhrisiadwy i mi.
Diolch
Mae’n amlwg na fyddai Prosiect Mentora Ffiseg wedi llwyddo heb y partneriaethau cydweithredol â’r prifysgolion, yr ysgolion, y mentoriaid a’r consortia addysg a heb nawdd HEFCW. Mae rhai pobl wedi rhoi cymorth a mentora arbennig, fodd bynnag, yn ogystal â bod yn ffrindiau i mi. Hoffwn i ddiolch i’r canlynol yn benodol:
- Lucy a Tallulah (MFL Mentoring) am y cynghori, y chwerthin a’r bisgedi.
- Lizzie a Laura (OnData Research) am gynnig cyfarwyddyd, adborth gonest a chymorth.
- Mike a Helen (Creo Skills) am hyfforddi’r mentoriaid, a minnau, a bod ar gael ar gyfer bwrw bol ambell waith.
- Pawb sy’n gweithio ar 4ydd llawr Tŷ McKenzie am sawl egwyl goffi hir a’r diweddaraf am fwydlen eich cinio.
- Grace Mullally am fod yn gefn imi yn ystod y cyfnod clo ac ansicrwydd y dyddiau olaf yn fy rôl.
- Wrth gwrs, Chris North, academydd arweiniol y prosiect am ei ymddiried ynof i’w reoli’n llawn a’i gymorth cynhwysfawr yn ystod anawsterau personol a phroffesiynol.
Edrychaf ymlaen at weld llwyddiant y prosiect yn y dyfodol a dyma obeithio y bydda i’n cwrdd â’r rhai rwyf i wedi cydweithio â nhw eto.