Mae gwerthuswyr allanol Prosiect Mentora Ffiseg, Ondata Research Ltd, wedi cyhoeddi eu hadroddiad am y flwyddyn arbrofol.

Mae’r adroddiad cynhwysfawr yn dangos effaith y prosiect ar ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 oedd yn cael eu mentora, gan gynnwys yr effaith ar ferched yn ogystal â chyd-destun nifer y rhai sy’n astudio’r pwnc ar lefel TGAU a’r effaith ar athrawon a mentoriaid. At hynny, mae’r adroddiad yn cyd-destunoli canlyniadau cylch dau a thri o’u cymharu â chanlyniadau cylch un o achos newidiadau mawr yn ein ffordd o weithredu rhwng cylchau un a dau. Fel yn yr adroddiadau blaenorol, mae amryw ddulliau wedi’u defnyddio gan gyfuno ffyrdd meintiol ac ansoddol o werthuso megis arolwg o ddisgyblion, sylwadau mentoriaid a mentoreion, arolwg o athrawon a chyfweld tîm y prosiect.

Ynglŷn â phrif nod y prosiect, sef cynyddu nifer y rhai sy’n astudio ffiseg ar lefel y Safon Uwch, mae canlyniadau’r arolwg o’r rhai a gymerodd ran yn y prosiect yn dangos ei effaith fuddiol arnyn nhw o’u cymharu â’r rhai na chymerodd ran (fe ddywedodd 40% y bydden nhw’n dewis ffiseg naill ai’n bendant neu yn ôl pob tebyg, 29% yn fwy na charfan y rhai na chymerodd ran).  Mae hynny’n arwyddocaol o safbwynt ystadegol (p<0.05) am fod 38% o’r rhai a ddywedodd hynny wedi bod yn ansicr a fydden nhw’n dewis y pwnc neu beidio cynt. Yn yr arolygon o’r rhai a gymerodd ran, dywedodd 60% o’r mentoreion eu bod yn debygol o ddewis gyrfa wyddonol o’u cymharu â 38% o’r rhai na chymerodd ran.

Mae’r adroddiad yn trafod effaith y prosiect ar y merched a gymerodd ran, hefyd. Mae dadansoddiad yn dangos bod 61% o ferched wedi dweud na fydden nhw’n dewis ffiseg ar lefel y Safon Uwch cyn y mentora a bod hynny wedi gostwng o 26% wedyn wrth i’r merched ddechrau symud i gategorïau ‘pendant’, ‘yn ôl pob tebyg’ neu ‘ansicr’.

Dywedodd athrawon eu bod yn fodlon ar ymddygiad y mentoriaid, “roedd eu brwdfrydedd, eu medrau cyfathrebu a’u proffesiynoldeb yn arbennig o dda”, a chadarnhaodd pob athro fod modd rhoi o’u hamser i gynnal y prosiect. Dywedodd athrawon fod y prosiect wedi’u galluogi i feithrin partneriaethau a chysylltiadau â phrifysgolion, creu cysylltiadau rhwng ffiseg yn yr ysgol a’r byd go iawn a dod â phobl i’w hefelychu i’r ysgol, hefyd.

Mae’r mentoriaid ffiseg o’r farn bod sawl mantais trwy gymryd rhan yn y prosiect megis meithrin medrau trin a thrafod amser, trefnu a chyfathrebu, gwella hyder yn eu galluoedd eu hunain, cael profiad gwerthfawr ar gyfer CV a chael profiad uniongyrchol o weithio yn yr ysgolion.

Mae tîm Prosiect Mentora Ffiseg yn falch iawn o’r adroddiad, sydd ar gael yma. Hoffai Prosiect Mentora Ffiseg ddiolch i Ondata Research am ei ymchwil ac argymhellion cynhwysfawr sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect.