Rydym yn awyddus i gael rhagor o fentoriaid i gymryd rhan yn y prosiect yn 2021-22!

Fel Mentor Ffiseg byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ac yn rhan o gymuned o fyfyrwyr brwdfrydig a llawn cymhelliant ledled Cymru. Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn gweithredu mewn cylchoedd. Mewn cylch mentora, mae pâr o Fentoriaid Ffiseg yn cael eu paru ag ysgol yng Nghymru, lle maen nhw’n cynnal chwe sesiwn fentora gyda grŵp bach o ddisgyblion ysgol uwchradd. Fel Mentor Ffiseg, byddwch yn dylunio ac yn cyflwyno sesiynau yn seiliedig ar themâu sy’n anelu at annog chwilfrydedd a datblygu sgiliau trosglwyddadwy.

Gall Mentoriaid Ffiseg elwa’n fawr o fod yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys buddion fel:

  • Y cyfle i fynd i hyfforddiant manwl sy’n brofiad cyfoethog, a gynhelir dros dair wythnos (y gallwch ddarllen mwy amdano yn y blog gan Hanna, Mentor Ffiseg presennol),
  • Datblygu sgiliau cyflogadwyedd, fel cyfathrebu, gwaith tîm, a threfnu,
  • Cynyddu hyder,
  • Profiad gwerthfawr ar gyfer eich CV, yn cynnwys y cyfle i gwblhau uned Lefel 4 mewn Cynyddu Ymgysylltu â Ffiseg drwy Fentora a achredir gan Agored Cymru, yn rhad ac am ddim.
  • boddhad personol o fod yn ysbrydoli cenhedlaeth o wyddonwyr ifanc,
  • bwrsariaeth o hyd at £200 o arian parod am bob grŵp mentora a arweinir.

Mae hwn yn gyfle arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n ystyried gyrfa dysgu, fel y gallwch ddarllen yn y blog hwn gan Lille, Mentor Ffiseg blaenorol.

Mae’r cylch hwn o recriwtio mentoriaid yn agored i unrhyw un sydd:

  • yn fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe neu Brifysgol De Cymru,
  • sydd â chymhwyster ôl-16 mewn Ffiseg (ee Safon Uwch, Bagloriaeth Ryngwladol, Highers yr Alban, ac ati)
  • wedi ymrwymo i ymgysylltu’n llawn â’r prosiect a chyfathrebu â’r Cydlynydd Cenedlaethol, ac
  • yn frwdfrydig dros Ffiseg, cynhwysiant mewn STEM ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr!

Caiff pob mentor ei hyfforddi’n llawn, ac felly anogir unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf uchod i wneud cais, ni waeth beth fo’i brofiad. Mae ceisiadau ar gael yma ac ar agor tan 23:59 Dydd Mercher 29 Medi 2021. Cyn gwneud cais, darllenwch y Daflen Wybodaeth i Fentoriaid Ffiseg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.