Fy enw i yw Hanna ac rwyf i’n fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ddiweddar ymunais â’r Prosiect Mentora Ffiseg ac rwyf i ar y ffordd i ddod yn fentor.
Un o’r camau cyntaf ar y daith i ddod yn Fentor Ffiseg yw ymgymryd â hyfforddiant arbennig. Yn fwy penodol – tair wythnos o ddarlithoedd diddorol, cyfarfod â phobl frwdfrydig, cymryd rhan mewn gweithdai cyffrous ac ehangu eich meddwl. Mae’n swnio fel breuddwyd!
Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn ymwneud â chynwysoldeb, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Yn ystod ein hyfforddiant rydym ni’n dysgu sut i greu amgylchedd croesawgar. Rhywle lle bydd y mentoreion yn teimlo’n gyfforddus. Ond nid trwy eiriau yn unig y caiff y cysyniadau hyn eu cyflwyno. Mae ein cydlynwyr yn arwain drwy esiampl. O’r sesiwn gyntaf un roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy nghydnabod a fy nerbyn. Roedd yn amlwg eu bod yn awyddus i gofleidio amrywiaeth ac am glywed ein barn. Nid dim ond eistedd a gwrando ar y pethau oedd angen i ni eu gwybod oedd yr hyfforddiant. Nage wir, roedd yn ddifyr, yn rhyngweithiol ac yn hwyliog iawn!
Drwy gydol y tair wythnos o hyfforddiant, trafodwyd amrywiaeth o bynciau gwahanol. O hanfodion yr hyn mae’n ei olygu i fod yn fentor, hyd at gynllunio ein sesiynau ein hunain a chyflwyno o flaen camera. Yn y cyfarfodydd cawsom gyfleoedd i gyfnewid barn, profiadau a dysgu oddi wrth ein gilydd. Nid mater o amsugno gwybodaeth oddi ar sleidiau mewn cyflwyniad yw’r hyfforddiant i ddod yn Fentor Ffiseg. Mae’n ymwneud â’r sgwrs, y syniadau, a chreadigrwydd casgliad o bobl sy’n caru gwyddoniaeth. Mewn ffordd, rwy’n credu ein bod ni’n fentoriaid i’n gilydd cyn i ni ddod yn fentoriaid i’r mentoreion. Rydyn ni’n dysgu ac yn addysgu drwy fod ym mhresenoldeb pobl eraill.
Yn y sesiynau hyn mae lle i bawb. Dim ots os ydych chi’n swil fel fi, neu’n allblyg iawn – mae cyfle i chi gyfrannu. A does dim beirniadaeth chwaith. Yn syml iawn, y rheol yw “Does dim ateb anghywir”!
Er bod rhaid cynnal yr hyfforddiant ar-lein a doedd dim modd i ni gyfarfod wyneb yn wyneb, rwy’n dal i deimlo fy mod wedi creu cyswllt gyda’r cyfranogwyr eraill. Y cyfan oedd ei angen oedd ein hangerdd cyffredin dros ffiseg. Cefais gyfle i gwrdd â llawer o bobl wych o wahanol brifysgolion, gwledydd, oedrannau, yn astudio gwahanol bynciau. Roedd rhai mentoriaid fel fi yn newydd i’r prosiect, ond roedd rhai eisoes yn arbenigwyr ac yn ymuno am flwyddyn arall eto. Mae llawer o’r pethau a ddysgon ni’n ddefnyddiol nid yn unig o ran y prosiect, ond hefyd y tu allan iddo. Newidiodd rhai o’r sesiynau fy nghanfyddiad o’r byd yn llwyr, gan fy ngwneud i’n fwy ymwybodol o’r pethau o’m cwmpas. Rwy’n credu bod yr hyfforddiant hwn wedi’n dangos ni sut i fod yn fentoriaid ffiseg, yn gyfathrebwyr gwyddoniaeth ond hefyd sut i fod yn ni ein hunain.
Ymunais â’r Prosiect Mentora Ffiseg am fy mod yn credu ei bod yn fenter wych. Hefyd roeddwn i am gynyddu fy hyder a gwella fy sgiliau cyfathrebu, ymhlith pethau eraill. Nawr bod ein hyfforddiant ar ben, gallaf ddweud heb unrhyw amheuaeth fod y prosiect eisoes wedi rhagori ar fy nisgwyliadau. Mae’r sesiynau wedi fy llenwi â llawenydd a chyffro. Maen nhw wedi ysbrydoli cynifer o syniadau newydd ac allaf i ddim aros i’w rhoi ar waith fel Mentor Ffiseg.
Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n Rheolwr Prosiect Rosie Mellors ac i Grace Mullally am wneud hwn yn brofiad mor wych. Diolch am greu un o’r amgylcheddau mwyaf croesawgar a chynhwysol i mi fod yn rhan ohono erioed!