Mae Mentora Ffiseg yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig a llawn cymhelliant i ddod yn Fentoriaid Ffiseg yn 2023/24!

Fel Mentor Ffiseg byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ac yn rhan o gymuned o fyfyrwyr brwdfrydig a llawn cymhelliant ledled Cymru.

Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn gweithredu mewn cylchoedd. Mewn cylch mentora, mae pâr o Fentoriaid Ffiseg yn cael eu paru ag ysgol yng Nghymru, lle maen nhw’n cynnal chwe sesiwn fentora gyda grŵp bach o ddisgyblion ysgol uwchradd. Fel Mentor Ffiseg, byddwch yn dylunio ac yn cyflwyno sesiynau yn seiliedig ar themâu sy’n anelu at annog chwilfrydedd a datblygu sgiliau trosglwyddadwy.

Gall Mentoriaid Ffiseg sy’n ymwneud â’r prosiect ac sy’n cyfathrebu â’r tim prosiect elwa’n fawr o fod yn rhan o’r prosiect. Gall rhai o’r manteision gynnwys:

  • Bwrsariaeth o hyd at £200 am bob grŵp mentora
    • Ad-dalu‘r holl gostau teithio a llety
  • Y cyfle i gael hyfforddiant manwl a defnyddiol
    • Gallwch chi ddarllen mwy amdano’r hyfforddiant yn y blog gan Hanna, Mentor blaenorol
  • Y cyfle i gwblhau uned Lefel 4 a achredir gan Agored Cymru, yn rhad ac am ddim
  • Cynyddu hyder
  • Cymwysterau a datblygiad sgiliau cyflogadwyedd i ategu eich CV
  • Boddhad personol yn sgîl ysbrydoli cenhedlaeth o wyddonwyr ifanc!

Mae hwn yn gyfle arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n ystyried gyrfa dysgu, fel y gallwch chi ddarllen yn y blog hwn gan Lille, Mentor blaenorol.

Mae’r cyfle i fod yn Fentor Ffiseg ar gael i unrhyw un sydd:

  • Yn fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru neu Brifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Â chymhwyster ôl-16 mewn gwyddorau ffisegol (e.e. Safon Uwch, Bagloriaeth Ryngwladol, Safon Uwch yr Alban, BTEC, prentisiaethau, ac ati)
  • Wedi ymrwymo i gymryd rhan yn llawn yn y prosiect a chyfathrebu’n gyson â’r tîm prosiect
  • Yn frwdfrydig dros Ffiseg, cynhwysiant ym maes STEM ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr!

Caiff pob mentor ei hyfforddi’n llawn, ac felly anogir unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf uchod i wneud cais, ni waeth beth fo’i brofiad.

Mae ceisiadau ar agor tan 23:59 Dydd Sul 6 Awst 2023. Cyn gwneud cais, darllenwch y Tudalen We Gwybodaeth i Fentoriaid Ffiseg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni!