Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg wedi gweithio gydag ysgolion ledled Cymru er 2019 gan ddarparu rhaglen fentora wyneb yn wyneb dros chwe wythnos. Yn ystod gwanwyn 2021, symudwyd y rhaglen fentora ar-lein. Mae gwerthuswyr allanol y prosiect, Ondata Research, wedi llunio dwy astudiaeth achos ar effaith y prosiect ar fentoreion a mentoriaid sy’n cymryd rhan, gan gynnwys edrych ar ddatblygiad fformat ar-lein newydd y prosiect.
Effaith ar fentoriaid
Mae cymryd rhan yn y prosiect fel mentor yn arwain at amrywiol fuddion o ran sgiliau, hyder a chyflogadwyedd. Bydd mentoriaid yn datblygu sgiliau allweddol fel rheoli amser, cyfathrebu a threfnu; mae rhai mentoriaid hyd yn oed yn dweud bod yr hyfforddiant wedi rhoi mwy o hyder iddyn nhw wrth gymryd rhan mewn gwaith grŵp ar-lein neu aseiniadau lle mae gofyn am gyflwyniad. Mae’r cyfle hefyd yn brofiad gwerthfawr y gellir ei gynnwys ar CV, sy’n arbennig o bwysig i fentoriaid sydd â diddordeb mewn gyrfa addysgu.
Mae pandemig coronafeirws wedi bod yn gyfnod anodd i lawer o fyfyrwyr. Mae mentoriaid wedi dweud bod cael bod yn rhan o’r Prosiect Mentora Ffiseg wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n llai ynysig gan eu bod yn rhan o gymuned ehangach gyda diben cyffredin ymhlith pobl y gallan nhw uniaethu â nhw – ac rydym yn falch i glywed eu bod wedi meithrin cyfeillgarwch newydd fel canlyniad. Canolbwyntiodd tîm y prosiect a chydweithwyr o Creo Skills oedd yn rhan o’r hyfforddiant ar ddatblygu cymuned gefnogol, a ddisgrifiwyd gan un mentor fel amgylchedd diogel, cyfeillgar a chynhwysol (darllenwch fwy ar flog Hanna mae’n dechrau gyda hyfforddiant).
Effaith ar fentoreion
Mae adroddiadau gwerthuso blaenorol wedi dangos bod cymryd rhan mewn mentora yn arwain at gynnydd yn y nifer o fentoreion sy’n bwriadu dewis Ffiseg Safon Uwch a mynd ymlaen i yrfaoedd mewn meysydd STEM. Yn arbennig, rydym ni’n gallu effeithio fel hyn ar ferched, sydd ar y cyfan heb gynrychiolaeth ddigonol mewn dosbarthiadau Safon Uwch Ffiseg. Mae’r effaith hon yn cyrraedd merched a fu’n rhan o’r prosiect, sydd ar y cyfan heb gynrychiolaeth ddigonol mewn dosbarthiadau Safon Uwch Ffiseg. Mae wedi dangos hefyd bod y prosiect yn arwain at wella argraffiadau’r holl fentoreion o ffiseg, pa un a ydyn nhw’n mynd ymlaen i ddewis y pwnc ai peidio. Mae’r buddion eraill i fentoreion yn cynnwys cyfle i weithio mewn grwpiau llai, gwell sgiliau cyfathrebu a datrys problemau a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw o ran astudio a gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae athrawon a mentoreion hefyd wedi nodi cynnydd yn hyder y mentoreion, sy’n datblygu wrth iddyn nhw weld pa mor berthnasol yw ffiseg iddyn nhw.
Mae’r effeithiau cadarnhaol ar y mentoreion wrth gwrs yn bwysig i’r ysgolion a’r athrawon sy’n cymryd rhan ond ceir buddion ehangach yn cynnwys codi proffil ffiseg yng nghymuned yr ysgol, cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon sy’n cefnogi’r prosiect a datblygu perthynas gyda phrifysgol.
Sesiynau mentora ar-lein
Dim ond ers ychydig amser mae’r sesiynau ar-lein gyda mentoriaid wedi bod ar waith ond mae’r adborth hyd yma gan athrawon a mentoreion wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda’r mentoriaid yn cyflwyno sesiynau hwyliog a difyr. Mae’r mentoreion wedi mwynhau siarad gyda’r mentoriaid ac wedi llwyddo i feithrin perthynas gyda’r mentoriaid mewn cyfnod byr.
Darllen yr astudiaethau achos llawn
Mae tîm y prosiect yn ddiolchgar i Ondata Research am eu gwaith yn cynhyrchu’r astudiaethau achos hyn, sydd ar gael i’w darllen yn llawn, yma: