Yr haf hwn, cynhaliodd y Prosiect Mentora Ffiseg ddwy Ysgol Haf STEM undydd i ysgolion nad oedden nhw’n gallu cymryd rhan yn y prosiect yn y cylch cyntaf. Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys gweithdai Ffiseg thematig i fyfyrwyr Blwyddyn 10 a’u hathrawon ffiseg.
Gwahoddodd y digwyddiad yn Wrecsam, ym Mhrifysgol Glyndŵr ym mis Mehefin, fyfyrwyr o Ysgol y Grango, Ysgol Bryn Alyn ac Ysgol Rhosnesni i gymryd rhan mewn gweithdai peirianneg drydanol a sbectrometreg. Wrth lwc, roedd yn ddiwrnod braf ac felly roedd yn bosib i’r myfyrwyr grwydro campws Prifysgol Glyndŵr hefyd. Cyflwynwyd yr athrawon oedd yn bresennol i amrywiol offerynnau rhyngweithiol i’w defnyddio yn y dosbarth gan gydweithwyr o Rwydwaith Stimulating Physics yr IOP.
Ym Mhrifysgol De Cymru, ym mis Gorffennaf, bu myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Lliswerry yn archwilio sbectrometreg a roboteg cyn rheoli prosiect eu cyrch telesgop gofodol eu hunain. Dysgodd eu hathrawon fwy am ddefnyddio seryddiaeth i ddysgu ffiseg, yn ogystal â’r gyrfaoedd y gall cymwysterau mewn Ffiseg arwain iddyn nhw gan dîm prosiect Mentora Ffiseg.
Pan ofynnwyd i’r myfyrwyr beth oedden nhw wedi’i ddysgu, eu hateb oedd “mae Ffiseg yn hwyl”, “fy mod i wir yn hoffi ffiseg a bod enfys yn cŵl” a “sut i wneud generadur – roedd yn hwyl aruthrol”.
Yn y dyfodol, ein nod yw y gall y Prosiect Mentora Ffiseg greu mwy o gyfleoedd DPP (datblygu proffesiynol parhaus) i athrawon Ffiseg sy’n rhwydweithio gyda’r prosiect. Roedd y diwrnodau STEM yn gyfle heb ei ail i ddysgu mwy am beth mae athrawon yn dymuno ei gael a beth sydd ei angen o ran DPP gyda chymorth ein gwerthuswyr OnData. Mwy yn y man!
Hoffai tîm y prosiect ddiolch i bawb a wnaeth y digwyddiadau yn yr ysgol haf yn bosibl:
- Keith Jones a Graham Perrin o IOP Cymru,
- Dr Suzy Kean, Dr Leshan Uggalla a Teresa Perry o Brifysgol De Cymru,
- Dr Iestyn Pierce o Brifysgol Bangor,
- Iwan Pullen ac Alex Loader, Mentoriaid Ffiseg o Brifysgol Caerdydd a,
- Staff a myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Lliswerry, Ysgol Bryn Alyn, Ysgol Rhosnesni ac Ysgol Y Grango.