Yn 2019, safodd merched ddim ond 23% o’r arholiadau Ffiseg Safon Uwch, o’i gymharu â 54% a 63% mewn Cemeg a Bioleg. Yn 2017/18, roedd menywod yn cyfrif am 20.1% o’r myfyrwyr israddedig amser llawn mewn ffiseg ym mhrifysgolion Cymru.

Mae’r ffaith bod Ffiseg ar hyn o bryd yn llwybr astudio a gyrfa sy’n eithrio rhai grwpiau a chymunedau trwy ei harferion yn broblem hysbys iawn a hirsefydlog. Ers 2018, mae’r Prosiect Mentora Ffiseg wedi anelu at gynyddu nifer y merched sy’n dilyn Ffiseg Safon Uwch. Mae mentora yn ddull sy’n seiliedig ar berthynas. Yn eu sesiwn fentora gyntaf, o’r enw “Fy Nhaith Ffiseg”, caiff mentoriaid a mentoreion eu hannog i ddod i adnabod ei gilydd. Fel hyn, gallant barchu’r profiadau, y gwerthoedd a’r teithiau sy’n gwneud y bobl pwy ydyn nhw ac wedi dod â nhw i’r man lle maen nhw.

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021, gwnaethom gydnabod pwysigrwydd y menywod sydd wedi cefnogi ein teithiau. Gwnaethom ofyn i’r mentoriaid a’r staff sy’n gweithio ar y Prosiect Mentora Ffiseg ddweud wrthym am fenywod sydd wedi eu hysbrydoli neu eu cefnogi i gyrraedd y man lle y maen nhw ar hyn o bryd. Dyma #TheWomenWhoGuideUs ar gyfer # IWD2021.

Diolch yn fawr i’r mentoriaid Georgie, Hanna, Callum, Mike o Creo Skills, Chris North a Grace Mullally am gefnogi’r ymgyrch hon.

Abstract vector created by freepik – www.freepik.com