Dydd Mawrth 17 Rhagfyr, bu’r Prosiect Mentora Ffiseg yn dathlu cyfranogiad myrfyrwyr ysgol, athrawon, staff y brifysgol a mentoriaid israddedig gyda Seremoni Wobrwyo a Chydnabod yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) ym Machynlleth.

Mae’r Ganolfan, sydd wedi’i lleoli yn Chwarel Llwyngwern, tua 40 munud o Aberystwyth, yn anelu at ysbrydoli, hysbysu a galluogi’r gymdeithas i gyflawni atebion ymarferol ar gyfer cynaladwyedd. O ystyried ei fod mewn lleoliad yng Nghanolbarth Cymru a’i chenhadaeth bwysig a pherthnasol, roedd y ganolfan yn lleoliad perffaith i groesawu darpar wyddonwyr o’r prosiect!

Fe wnaeth dwy ysgol sydd wedi cymryd rhan yn y ddau gylch blwyddyn peilot o Fentora Ffiseg, Ysgol Friars Bangor ac Ysgol Uwchradd Islwyn, wneud y trip i CAT am y diwrnod. Fe’u croesawyd gydag araith gan Kirsty Williams, AC, y Gweinidog dros Addysg, a wnaeth sylw ar bwysigrwydd y prosiect a’i nod i ysbrydoli mwy o fyfyrwyr i ddilyn TGAU Safon Uwch mewn Ffiseg a’i hyder hithau yn effaith y prosiect ar y mentoreion a mentoriaid.

Ar ôl derbyn tystysgrifau Mentora Ffiseg a bagiau llawn pethau neis, aeth y mentoreion i ddarlith am brosiect ymchwil CAT, sef Prydain Ddi-garbon. Dangosodd y mentoreion ymrwymiad i newid cadarnhaol tuag at gynaliadwyedd trwy ofyn cwestiynau brwd a thrylwyr i’r siaradwyr!

Tra bod y mentoreion yn eu darlith, roedd mentoriaid ac athrawon yn eu sesiynau eu hunain. Clywodd y mentoriaid gan gyn-fyfyrwyr mentora, Laura, a wnaeth gyflwyniad ar sut mae ei hamser fel mentor yn Ysgol Bro Hyddgen wedi cefnogi ei TAR ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yna buont yn gweithio gyda gwerthuswyr y prosiect, OnData, i fyfyrio ar eu hamser eu hunain mewn ysgolion. Roedd adborth o’r sesiwn hon yn cynnwys gwelliannau ymarferol i’r Cydlynydd Cenedlaethol eu rhoi ar waith, sylwadau ar y ffyrdd niferus y byddant yn defnyddio’r profiad a enillir yn y dyfodol ac ymateb cadarnhaol iawn i barhau fel mentor mewn cylchoedd yn y dyfodol. Mynychodd athrawon sesiwn DPP dan arweiniad Dr Chris North, a ystyriodd yrfaoedd, drwy gysylltu sgiliau a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth â gyrfaoedd nad ydynt o bosibl yn dod i’r meddwl bob amser wrth drafod cymwysterau Ffiseg.

Yn ystod cinio, anogwyd y mentoreion a’r mentoriaid i grwydro yn y ffair yrfaoedd a fynychwyd gan gydweithwyr o Radiograffeg y GIG yn y Trallwng, cyrsiau TAR Gwyddoniaeth ym Mhrifysgolion Abertawe ac Aberystwyth, Datblygiadau Egni Gwledig, Ynni Cymunedol Cymru, y Sefydliad Ffiseg a newyddiadurwr gwyddoniaeth llawrydd. Yn ffodus, roedd yn ddiwrnod clir a heulog ac felly daeth y digwyddiad i ben gyda thaith ‘Prydain Ddi-garbon’ hunandywys o amgylch safle’r ganolfan.

Hoffai’r Prosiect Mentora Ffiseg ddiolch i staff y Ganolfan Dechnoleg Amgen am helpu i redeg y diwrnod, y Gweinidog Addysg a’i chydweithwyr am ei fynychu, y mentoriaid, y mentoreion a’r athrawon ar gyfer gwneud y daith, cydweithwyr a wnaeth gyfrannu at y ffair yrfaoedd ac i’n gwerthuswr, Laura, am arwain y sesiwn gyda’r mentoriaid.