Mae dau gyfle cyffrous wedi codi yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth i ymuno â thîm sefydledig y Prosiect Mentora Ffiseg. “Rheolwr Prosiect” a “Swyddog Prosiect” yw teitlau’r swyddi o dan sylw:
- Rheolwr Prosiect
Bydd deiliad y swydd hon yn rheoli ac yn cydlynu’r prosiect wrth iddo ehangu i gynnwys rhagor o fentoriaid ac ysgolion ledled Cymru. Caiff ei gefnogi gan swyddogion y prosiect (cyfanswm o 1 CALl) ac arweinydd academaidd y prosiect. Mae hon yn rôl amrywiol a chyffrous, sy’n cynnwys bod yn rheolwr llinell ar dîm y prosiect a chydlynu’r prif weithgareddau gweithredol fel recriwtio mentoriaid, dylunio a darparu hyfforddiant i fentoriaid, recriwtio ysgolion a chadw mewn cysylltiad â nhw, rheoli digwyddiadau gwobrwyno a seremonïau cydnabod, a rheoli perthnasoedd gyda rhwydwaith mawr o gysylltiadau’r prosiect a rhanddeiliaid. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda gwerthuswyr allanol hefyd i fonitro’r prosiect a sicrhau ei fod yn parhau i gael effaith, gan gynnig newidiadau strategol a llywio cyfeiriad y prosiect yn y dyfodol. Yn ogystal, bydd deiliad y rôl yn gweithio gydag arweinydd y prosiect, gwerthuswyr allanol a rhanddeiliaid pwysig eraill yn rhan o ymdrechion parhaus i sicrhau cyllid yn y dyfodol fel bod y prosiect yn gallu parhau ac ehangu o ran cyrhaeddiad a chwmpas.
Os oes gennych ddiddordeb ac am gael gwybod rhagor am y rôl hon a sut i wneud cais, cliciwch yma.
- Swyddog Prosiect
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo Rheolwr y Prosiect i gydlynu’r prosiect wrth iddo ehangu ei gyrhaeddiad i gynnwys mwy o fentoriaid ac ysgolion ledled Cymru. Mae hon yn rôl amrywiol a chyffrous, sy’n cynnwys cefnogi gweithgareddau fel recriwtio mentoriaid, dylunio a darparu hyfforddiant mentor, creu fideos ac adnoddau sesiynau, recriwtio ysgolion a chadw mewn cysylltiad ag athrawon cyswllt, rheoli digwyddiadau gwobrwyo a seremonïau cydnabod, dyletswyddau gweinyddol y pwyllgor llywio, a rheoli perthnasoedd y rhwydwaith mawr o gysylltiadau prosiect a rhanddeiliaid. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi gweithrediadau’r prosiect o ddydd i ddydd, ochr yn ochr â Rheolwr y Prosiect a’r gwerthuswyr allanol.
Os oes gennych ddiddordeb ac am gael gwybod rhagor am y rôl hon a sut i wneud cais, cliciwch yma.