Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn recriwtio ysgolion ar hyn o bryd i gymryd rhan yn Nhymor y Gwanwyn (Cylch 8)!

Yn sgîl y Prosiect Mentora Ffiseg, cafodd myfyrwyr o brifysgolion Cymru eu hyfforddi i weithio mewn ysgolion ledled Cymru i fentora disgyblion ym mlynyddoedd 9-11 mewn Ffiseg.

Mae adroddiadau gwerthuso blaenorol wedi dangos bod cymryd rhan mewn Mentora Ffiseg yn arwain at gynnydd yn nifer y disgyblion ysgol sy’n bwriadu dewis Ffiseg Safon Uwch a mynd ymlaen i yrfaoedd ym meysydd STEM, gan gynnwys merched gan nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn dosbarthiadau Ffiseg Safon Uwch yn gyffredinol. Mewn gwirionedd, mae’r prosiect yn arwain at wella agweddau pob cyfranogwr at ffiseg, pa un a ydyn nhw’n mynd ymlaen i ddewis y pwnc ai peidio. Mae’r athrawon a’r mentoreion hefyd wedi nodi cynnydd yn hyder y mentoreion, ac mae’r hyder hwn yn cynyddu wrth iddyn nhw ddarganfod pa mor berthnasol mae ffiseg iddyn nhw.

Ochr yn ochr â mentora wyneb yn wyneb a mentora rhithwir, bydd cylch 8 Mentora Ffiseg yn lansio Mentora Cyfunol. Mae’r prosiect ar gael i ysgolion sydd hyd at awr i ffwrdd o brifysgol sy’n cymryd rhan ac mae’n cymryd y fformat canlynol.

  • Mae dau fentor wedi’u hyfforddi yn cael eu paru ag ysgol uwchradd,
  • Mae’r ysgolion yn dewis grŵp bach o ddisgyblion blwyddyn 9-11 i fod yn fentoreion
  • Mae mentoriaid yn cynnal sesiwn un a chwech wyneb yn wyneb
  • Mae mentoriaid yn cynnal pedair sesiwn ar-lein gyda’r mentoreion drwy ddull ffrydio byw 45 – 60 munud o hyd 
  • Mae athro (perchennog y grŵp), mentor a mentorai mewn grŵp ar Teams neu Google Classroom lle mae modd iddynt nhw gyfathrebu (byth 1:1) yn ystod amseroedd sesiwn mentora penodol am sgyrsiau ynghylch cynnwys fideo/taith mentor/pynciau i’w trafod,
  • Mae sesiynau gweminar yn cael eu darlledu gan fentoriaid i fentoreion ac athro/goruchwyliwr lle gall mentoreion ryngweithio â’r mentor trwy negeseuon sgwrsio cyhoeddus sy’n cael eu monitro gan staff.
  • Bydd pob cylch mentora’n gorffen gyda seremoni Wobrwyo a Chydnabod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am effaith y fformat ar-lein ar ysgolion a mentoreion sy’n cymryd rhan yn y fideo, y blog neu’r astudiaeth achos hon.

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal y prosiect yn eich ysgol, ebostiwch physicsmentoring@caerdydd.ac.uk cyn gynted â phosibl.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi!

Cofion gorau,

Celina