Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn falch o gyhoeddi ein bod ni nawr yn recriwtio ar gyfer ysgolion i gymryd rhan yn y flwyddyn academaidd nesaf!

P’un ai eich bod yn ysgol gyfredol, hen neu newydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, rydym am glywed gennych!

Eleni mae gennych yr opsiwn i gofrestru ar gyfer cylch yr Hydref (Cylch 9), cylch y Gwanwyn (Cylch 10) neu’r ddau.

Rydym bellach yn cynnig mentora personol, rhithwir a chyfunol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pob un o’n mentoriaid wedi’u gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac wedi’u hyfforddi’n drylwyr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am effaith y fformat ar-lein ar ysgolion a mentoreion sy’n cymryd rhan yn y fideo, y blog neu’r astudiaeth achos hon.

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael felly os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal y prosiect, yna peidiwch ag oedi; gwnewch gais heddiw:

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 24 Gorffennaf. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni!