Un o’n hathrawon, Sophie Dobbs, yn siarad am ei phrofiadau yn gweithio gyda’r prosiect.

Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg wedi bod yn rhaglen gyfoethogi wych i’n dysgwyr yma yn Ysgol Gyfun Tredegar dros y blynyddoedd diwethaf. Fel Pennaeth Gwyddoniaeth, roeddwn yn medru cydnabod nad oedd gan lawer o ddisgyblion yr awydd i ymgysylltu’n llawn â ffiseg. Yn fy marn i, y prif reswm dros hyn yw’r anhawster i roi ffiseg yn ei gyd-destun gyda chymwysiadau bywyd go iawn. Mae wedi bod yn braf gwahodd Mentoriaid Ffiseg (myfyrwyr prifysgol) i’r ysgol, gan yr ymddengys ei fod wedi rhoi delwedd newydd i ffiseg i’r rheini sydd wedi cymryd rhan fel mentoreion. Nid yn unig y mae ein disgyblion wedi derbyn agoriad llygad i’r cyfleoedd helaeth sydd ar gael iddynt trwy yrfaoedd mewn ffiseg, ond maent wedi cael eu hysbrydoli i fynd â’u haddysg i’r lefel nesaf wrth iddynt ddysgu am fywyd prifysgol gan eu Mentoriaid. 

Mae wedi bod yn bleser gweld ein disgyblion yn rhyngweithio gyda’r Mentoriaid Ffiseg dros y blynyddoedd wrth i mi eu gweld yn datblygu eu sgiliau cymdeithasol drwy’r sesiynau mentora. Bob cylch rydym wedi bod yn rhan ohono, rydym wedi cael dau Fentor gwahanol o ddwy brifysgol wahanol. Mae hyn wedi bod yn fanteisiol, gan fod disgyblion wedi mwynhau’r cyfle i geisio cymaint o wybodaeth am fywyd myfyrwyr ar y gwahanol gyrsiau, campysau, ac ardaloedd Cymru ag y bod modd.

Fel Arweinydd Ysgol y prosiect, rwyf wedi cael cefnogaeth lawn gan dîm y prosiect yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Maen nhw’n gwneud yn siŵr bod ochr weinyddol y prosiect mor fach â phosib, gyda ffurflenni’n cael eu gwneud yn electronig a thrwy ddefnyddio Google Classroom – mae bod yn Arweinydd Ysgol wedi bod yn dasg hawdd i mi. Cymerodd y disgyblion ran mewn 6 sesiwn; cynhaliwyd y sesiynau hyn am 1 awr bob wythnos ar ôl ysgol. Cawsom yr opsiwn i gynnal y sesiynau yn ystod y diwrnod ysgol, ond nid oedd hyn yn addas i ni, ac felly roedd y tîm yn darparu ar gyfer sesiynau ar ôl ysgol – roeddent yn hyblyg iawn wrth sicrhau bod ein hanghenion yn cael eu diwallu.

Yn ddiweddar, cawsom ein gwahodd i Ddigwyddiad Gwobrwyo a Chydnabod ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hwn yn gyfle cyfoethog arall i’n dysgwyr, wrth iddynt ymweld â champws prifysgol a chael eu cydnabod am eu cyfranogiad a’u hymrwymiad i’r prosiect. Rwy’n gobeithio y caiff y prosiect ei ariannu cyhyd â phosibl, gan ei fod yn wirioneddol yn codi dyheadau ein dysgwyr ifanc ac yn eu hannog i barhau â’u taith ddysgu ffiseg ymhellach nag 11-16. Mae’r prosiect hefyd yn hanfodol i godi proffil ffiseg, gan fod prinder athrawon sy’n arbenigo mewn Ffiseg. O ganlyniad, yn bendant mae angen y prosiect er mwyn cefnogi disgyblion, ysgolion, a staff addysgu anarbenigol. 

Diolch yn fawr i’r staff a’r mentoriaid sy’n rhoi o’u hamser i’r prosiect!