Y penwythnos diwethaf, croesawyd 24 o fyfyrwyr o 5 prifysgol yng Nghymru i’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Y myfyrwyr hyn yw’r grŵp cyntaf o fentoriaid i fod yn rhan o’r Prosiect Mentora Ffiseg. Roedden nhw yma i ddechrau penwythnos llawn hyfforddiant. Roedd y tîm yn gynhyrfus a hefyd yn nerfus – beth petasem ni heb ddod â digon o custart creams gyda ni i bara’r penwythnos?!
Dechreuwyd y penwythnos gyda throsolwg o’r maes ffiseg yng Nghymru a nod y prosiect. Rosie Mellors, y Cydlynydd Cenedlaethol, a Chris North, yr Arweinydd Academaidd arweiniodd y sgyrsiau agoriadol hyn. Wedi hynny, gwahanwyd y mentoriaid i mewn i ddau grŵp a gyrrwyd nhw i’r sesiwn cyntaf o sesiynau rhyngweithiol y penwythnos.
Y gurus mentora: Pete and Dave
Peter Thomas a David Harris, arbenigwyr mewn mentora a chynhaliodd y sesiynau hyfforddiant mentora. Mae Pete, sy’n gyn-bennaeth adran Ffiseg mewn ysgol uwchradd, wedi bod yn frwdfrydig ynglŷn â’r Prosiect Mentora Ffiseg – roedd hyn yn amlwg a chafodd hyn effaith ar y mentoriaid. Daeth profiad diwydiannol Dave fel cyn-beiriannydd British Gas â dealltwriaeth bellach o yrfa mewn ffiseg. Prif ffocws y sesiynau oedd meithrin perthynas cynhyrchiol rhwng y mentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora.
Y cit (ac roedden ni’n haeddu pizza!)
Science Made Simple a arweiniodd y sesiwn hyfforddiant ar yr “aspirational handbag”, sef y bocs enfawr o git y bydd y mentoriaid yn gallu ei ddefnyddio yn ystod eu sesiynau nhw. Yn y bocs, mae cit rhyngweithiol er mwyn gwneud arddangosiadau yn ymwneud â dynameg hylifol, y sbectrwm electromagned a dadfeiliad ymbelydrol. Yn y sesiwn, roedd cyfle i’r mentoriaid ddarparu adborth i’r tîm am y sesiynau ynglŷn â beth roedden nhw’n meddwl byddai’n gweithio’n dda a beth oedd angen ei wella.
Ar ôl diwrnod hir o ddysgu, yr unig wobr addas oedd pizza! Dw i’n meddwl bod y mentoriaid yn cytuno gyda fi..
Cydbwysedd rhywedd a gyrfaoedd
Dechreuwyd ail ddiwrnod yr hyfforddiant gyda sesiwn ddiddorol gan Sarah Cosgriff, swyddog cydbwysedd rhywedd o’r IOP. Yn y sesiwn, trafodwyd themâu megis gyrfaoedd, bias anymwybodol, y niferoedd sy’n sefyll arholiadau Lefel A a TGAU vs cyrhaeddiad disgyblion a chyngor ymarferol ar gyfer eu sesiynau.
Y gweithgaredd a gafodd ei asesu
Daeth y penwythnos i ben gyda’r mentoriaid yn ymarfer eu sgiliau newydd o flaen eu cyd-fentoriaid. Roedd yr holl fentoriaid wedi plesio eu haseswyr gyda’u sgiliau newydd. Roeddent i gyd i weld wedi dysgu llawer yn ystod y penwythnos.
Adborth
Roedd adborth gan y mentoriaid ynglŷn â’r penwythnos yn dangos bod eu hoff beth am y penwythnos yn amrywio o’r pizza am ddim i’r cyfle i gyfarfod â phobl newydd! Roedden nhw wedi mwynhau’r sesiwn cydbwysedd rhywedd yn fawr, a sesiynau’r arbenigwyr mentora, ac roedden nhw wedi mwynha’r cyfle i ymarfer eu sgiliau gyda’i gilydd.
Mae tîm y Prosiect Mentora Ffiseg yn hynod ddiolchgar i’r rhai sydd wedi bod yn rhan o’r hyfforddiant ond hefyd i’r mentoriaid eu hunain am dreulio eu penwythnos gyda ni. Rydyn ni’n barod i fynd â’r prosiect gwych hwn at y disgyblion!