Niels Bohr

“Os oes unrhyw un yn dweud y gall feddwl am ffiseg cwantwm heb fynd yn giddy, mae hynny ond yn dangos nad yw wedi deall y peth cyntaf amdanynt.”

Mae cyfrifiadura cwantwm wedi datblygu’n fawr yn ddiweddar, gan droi o gysyniad damcaniaethol yn unig i fod yn faes yn ei hun. Mae ganddo’r potensial i newid llawer o ddiwydiannau yn sylweddol, gan gynnwys cryptograffeg. Mae cyfrifiaduron arferol yn prosesu gwybodaeth mewn rhifau deuaidd (0 ac 1), ond mae cyfrifiaduron cwantwm yn defnyddio egwyddorion mecaneg cwantwm i ddatrys problemau anodd iawn yn gynt nag erioed o’r blaen! Bydda i’n siarad mwy am beth yw cyfrifiadura cwantwm, y ffyrdd y mae modd ei gymhwyso, a’r heriau.

Er mwyn deall cyfrifiadura cwantwm, mae angen i chi ddeall cyfrifiadura arferol yn gyntaf. Fe wna i esbonio hynny’n gyflym. Mae cyfrifiaduron arferol yn dibynnu ar ddidau, a all gael eu cynrychioli naill ai gan 0 neu gan 1, ac mae’r didau hyn yn cael eu defnyddio i storio gwybodaeth a pherfformio cyfrifiadau cymhleth. Ar y llaw arall, mae cyfrifiaduron cwantwm yn defnyddio didau cwantwm, a elwir hefyd yn ‘giwbitiau’, a all fod mewn sawl ffurf ar yr un pryd, nid 0 neu 1 yn unig. Mae ciwbitiau yn gallu bodoli ar sawl ffurf ar yr un pryd oherwydd egwyddor arosodiad (superposition). Mae ymglymiad cwantwm yn rhywbeth arall y mae ciwbitiau yn eu profi. Gall 2 giwbit fod yn gyd-ddibynnol, sy’n golygu y gall un ciwbit ddylanwadu ar gyflwr un arall, ni waeth pa mor bell ydyn nhw o’i gilydd! Mae’r egwyddorion hyn yn galluogi cyfrifiaduron cwantwm i brosesu llawer iawn o ddata ar yr un pryd, sy’n eu gwneud yn hynod bwerus pan mae’n dod i dasgau cymhleth na fyddai cyfrifiaduron arferol yn gallu eu perfformio mor gyflym. Er enghraifft, mae cyfrifiaduron arferol yn gwirio pob datrysiad posibl yn unigol, ond mae cyfrifiaduron cwantwm yn gallu prosesu sawl datrysiad ar yr un pryd, sy’n cyflymu’r broses yn sylweddol.

Gellir defnyddio cyfrifiaduron cwantwm mewn sawl maes gwahanol. Cryptograffeg yw un o’r rhain. Oherwydd eu natur gyfrifiadurol gyflym, gellir eu defnyddio i dorri rhai o’r dulliau amgryptio a ddefnyddir amlaf. Mae algorithmau sy’n gwrthsefyll cyfrifiadura cwantwm yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Gellir eu defnyddio hefyd ym maes deallusrwydd artiffisial, gan wella ar yr algorithmau dysgu peirianyddol, a galluogi prosesu data yn gynt. Gall hyn effeithio’n fawr ar feysydd prosesu iaith naturiol, cydnabod delweddau, a systemau ymreolaethol.

Er bod hyn yn swnio’n anhygoel, rydyn ni’n wynebu sawl her o ran graddoli, cost y seilwaith, a hygyrchedd. Dyma un o’r rhesymau pam nad yw cyfrifiadura cwantwm yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial ar hyn o bryd.

I gloi, mae cyfrifiadura cwantwm yn faes addawol iawn, ond mae problemau mawr eto i’w goresgyn. Mae’n ddatblygiad technolegol cyffroes iawn, ac wrth i ymchwil a datblygu symud ymlaen, gallwn ni fod mewn cyfnod arloesedd newydd. Bydd hyn yn trawsnewid diwydiannau a hefyd yn gwella ein dealltwriaeth o ffiseg y bydysawd!