Dydd Mercher 17 Ebrill, amlygodd y BBC yr ystadegau ynghylch Menywod ym maes Ffiseg yng Nghymru a’r gwaith y mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn ei wneud i helpu.

Ymddangosodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Islwyn, Y Coed Duon, a’u mentoriaid Lille ac Isabelle, ar Wales Today (BBC 1, 6:30pm). Dywedodd Tarin, disgybl benywaidd ym Mlwyddyn 10 yn Islwyn, fod y mentora’n cynnwys mwy o hwyl ac arbrofion ymarferol nag yn yr ystafell ddosbarth.

Roedd Lille yn westai, ochr yn ochr â Dr Sarah Roberts, swyddog cyswllt y prosiect ar gyfer Prifysgol Abertawe, ar Good Morning Wales (BBC Radio Wales, 6:30am). Siaradodd Lille yn frwd â Rachel Garside ynghylch cynnwys y sesiynau mentora; “rydym yn ystyried lle gall y cysyniadau syml hyn fynd â nhw. Dyma’r math o beth y bydden nhw’n mynd ymlaen i astudio’n fwy dwys yn y Brifysgol, ac mae modd cael swyddi yn y meysydd hyn.” Gallwch wrando ar y segment cyfan ar iPlayer (ewch i 55 munud).

Ffilmiodd y BBC sesiwn fentora yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, a ymddangosodd ar Newyddion 9 (S4C, 9pm). Siaradodd Rhidian, y mentor o Brifysgol Abertawe, â’r BBC ynghylch gwneud Ffiseg yn ddiddorol a rhoi gwybod i’r disgyblion nad oes angen bod yn athrylith i astudio’r pwnc, er bod angen sgiliau mathemategol.

Os colloch chi’r straeon ar y newyddion, gallwch ddarllen mwy ar BBC News neu Cymru Fyw. Mae tîm y prosiect yn diolch i’r holl fentoriaid, mentoreion, athrawon, cydweithwyr a’r BBC am wneud hyn yn bosibl.