Mae’r tîm Mentora Ffiseg yn falch o gyhoeddi canlyniadau tri gwerthusiad gwahanol.
Mae ein Hadroddiad Gwerthuso Blynyddol ar gyfer 2021 – 2022 yn cael ei gyhoeddi ar yr un pryd â’n hadroddiad gwerthuso Mentora Fideo a chanlyniadau ein hymarfer i ehangu cwmpas y prosiect.
Adroddiad Gwerthuso Cylch 5 a 6
Mae adroddiad gwerthuso’r Prosiect Mentora Ffiseg ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-2022 wedi cael ei gyhoeddi gan werthuswyr allanol y prosiect, Ondata Research Ltd.
Mae’r adroddiad blynyddol yn nodi effaith pumed a chweched cylch y prosiect. Dyma’r cylchoedd cyntaf a gyflawnwyd wrth i ni i gyd ddechrau dod allan o’r pandemig. Cyn y cylchoedd hyn, cafodd Cylch 4 (Gwanwyn 2021) ei darparu o bell, a chafodd y cylchoedd cynharach (2019-20) eu darparu wyneb yn wyneb. Am y tro cyntaf, cynigiwyd mentoriaid wyneb yn wyneb neu rithwir i ysgolion. Mae hyn wedi golygu ein bod wedi gallu dod yn brosiect sy’n gweithredu ledled Cymru, ac yn darparu mentora i ardaloedd mwy anghysbell y wlad. Cymerodd tua 300 o ddisgyblion mewn 25 ysgol ran yn y cynllun mentora.
Fel mewn adroddiadau blaenorol, defnyddiwyd amrywiaeth o ganlyniadau i werthuso’r prosiect. Mae hyn yn cynnwys data ansoddol o gyfrifiadau disgyblion, ffurflenni myfyrio mentoriaid/mentoreion ac arolygon athrawon, ynghyd â data meintiol o arolygon disgyblion cyn ac ar ôl cymryd rhan.
Effaith ar fentoreion
Mae’r prif nod o gynyddu’r nifer sy’n astudio Ffiseg ar ôl 16 oed wedi parhau i gael ei gyflawni’n llwyddiannus. Bu symudiad i ffwrdd o sefyllfa lle mae disgyblion yn ansicr ynglŷn â’u dyfodol a chynnydd yn nifer y disgyblion sy’n nodi y byddant yn ‘debygol neu’n bendant’ yn dewis Safon Uwch Ffiseg, yn ogystal â chynnydd yn y rhai sy’n bwriadu dilyn gyrfa mewn STEM. Mae’r ddau yn gadarnhaol, o gymharu â’r myfyrwyr nad ydynt yn cael eu mentora.
Mae’r effeithiau ychwanegol wedi cynnwys ehangu ymwybyddiaeth o lwybrau STEM a chyfrannu at dwf mewn cyfalaf gwyddoniaeth.
Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn llwyddiannus yn ei nod o gynyddu ymdeimlad o berthyn a hyder y rhai sy’n cael eu mentora mewn STEM. Mae’r sesiynau wedi llwyddo i herio rhai canfyddiadau ynglŷn â’r hyn y mae bod yn ffisegydd yn ei olygu: “Does dim rhaid i chi fod y person mwyaf galluog mewn ffiseg nawr i’w gynnwys yn eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol”. Mae dysgwyr hefyd yn gallu nodi sgiliau trosglwyddadwy, a dywedwyd eu bod “wedi dysgu bod cydweithio a chyfathrebu yn bwysig”. Mae eraill yn gweld ffiseg fel maes mwy eang, gydag un yn dweud ei fod yn sylweddoli ei fod yn “defnyddio llwyth o ffiseg bob dydd”.
Mae diddordeb sylweddol hefyd mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, gyda’r gwerthusiad yn dangos gwahaniaeth clir mewn bwriadau ac agweddau rhwng dysgwyr sy’n cael eu mentora a dysgwyr nad ydynt yn cael eu mentora. Mae tystiolaeth amlwg i ddangos bod dysgwyr sy’n cael eu mentora yn datblygu agweddau mwy cadarnhaol o gymharu â’r rhai na chafodd eu mentora, a oedd yn parhau i fod yn ansicr.
Effaith ar Athrawon ac Ysgolion
Mae’r adborth gan ysgolion yng Nghylchoedd 5 a 6 wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae athrawon sy’n ymwneud â’r prosiect yn nodi ei fod yn ffordd o roi cyfleoedd i ehangu ymwybyddiaeth myfyrwyr a chyfleoedd y tu hwnt i addysg orfodol. Amlygodd y gwerthusiad hefyd bod ysgolion wedi bod yn sôn wrth ei gilydd am y prosiect, a bod hon yn elfen bwysig o ran eu hannog i gymryd rhan.
Nododd athrawon hefyd mai un o brif fanteision y prosiect yw bod cysylltiadau â phrifysgolion lleol yn cael eu ffurfio a’u meithrin.
Effaith ar Fentoriaid
Mae’r prosiect yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fentoriaid. Mae’r dystiolaeth yn parhau i ddangos bod gan fentoriaid fwy o hyder a’u bod yn datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, a bod y profiad o fentora yn un hynod gadarnhaol.
Dangosodd adborth a gasglwyd gan gyn-fentoriaid mai’r effaith fwyaf oedd eu bod yn gwerthfawrogi “cyfalaf gwyddoniaeth”, a’u bod yn datblygu ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dywedodd rhai mentoriaid hefyd fod eu profiad cadarnhaol yn gwneud gwaith mentora wedi eu gwneud yn awyddus i wirfoddoli gyda phobl ifanc.