Fy enw i yw Alex Loader, a thros y 10 wythnos ddiethaf rwyf i wedi bod yn gweithio fel intern ar y Prosiect Mentora Ffiseg.

Yn ystod y cyfnod hwn rwyf i wedi cynorthwyo mewn digwyddiadau, gweithio ar ailgynllunio a gwella’r sesiynau y gallwn ni eu rhedeg, a chael profiad o fyd allgymorth gwyddoniaeth drwy gofleidio pob digwyddiad a chyfle posibl.

Myfyriwr wyf i, ond cyn i fi ddod i’r brifysgol roeddwn i’n gynorthwyydd addysgu yn fy ysgol gynradd leol, a thrwy hyn sylweddolais i mor bwysig yw ysbrydoli pobl ifanc a’u hannog i geisio pethau newydd nad oedden nhw’n credu y gallen nhw eu cyflawni – a dyma sydd wrth wraidd y Prosiect Mentora Ffiseg. Dyna pam y neidiais at y cyfle i ddod yn fentor i ddechrau, ac unwaith eto pan gefais gyfle i weithio’n agosach gyda thîm y prosiect drwy’r interniaeth hwn.

Mae’n wych cael edrych yn ôl ar y diwedd a gweld popeth rwyf i wedi’i wneud drwy gydol yr interniaeth. Rwyf i wedi gweithio gyda llyfrgelloedd lleol yn darparu gweithdai i blant ysgol gynradd – ac roedd yn braf dychwelyd at fy ngwreiddiau – ond rwyf i hefyd wedi fy nhaflu fy hun i ferw’r sesiynau mewn Ysgolion Haf i fyfyrwyr uwchradd, ac yn fwy brawychus na dim, ystafell llawn Penaethiaid Gwyddoniaeth nifer fawr o ysgolion lleol. Ar ben hyn roedd y wibdaith i Interact 2019, confensiwn Allgymorth Gwyddoniaeth ar gampws UCLAN, lle teithion ni a chyflwyno i weithwyr allgymorth gwyddoniaeth eraill. Mae’r holl ddigwyddiadau hyn wedi cadarnhau’r penderfyniad fy mod i am i waith allgymorth, rywsut neu’i gilydd, fod yn ffactor yn fy mywyd ar ôl graddio.

Rwyf i’n teimlo fy mod wedi gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r prosiect hefyd! Gan i mi fod yn fentor cyn i fi ddechrau ar yr interniaeth, roedd gen i brofiad eisoes o fynd drwy’r penwythnos hyfforddi a mynd i ysgolion gyda’r cit mentora, felly roeddwn i mewn lle perffaith i helpu i wneud penderfyniadau am ddyfodol y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys mireinio’r hyn sydd gennym ni, gwneud y prosiect yn amgylchedd llawer mwy creadigol i fentoriaid y dyfodol allu creu ac addasu sesiynau fel bo’n briodol – rhywbeth oedd eisoes wedi’i wneud yn effeithiol iawn yn y cylch cyntaf, a rhywbeth fydd gobeithio yn helpu i ysbrydoli llawer o fentoriaid yn ogystal â’u menteion.

Y cyfan y gallaf i ei ddweud wrth edrych yn ôl ar yr haf, yw fy mod ar fy ennill a phe bawn i’n cael cyfle, byddwn yn gwneud y cyfan eto. Mae’r tîm wedi bod yn wych i weithio gyda nhw ac mae fy llygaid wedi’u hagor i’r ffordd mae’r diwydiant allgymorth gwyddoniaeth yn gweithio. Hoffwn ddiolch yn fawr i Rosie Mellors a Dr Chris North am y cyfle hwn ac rwy’n methu aros i barhau i weithio gyda nhw fel mentor dros y flwyddyn nesaf.

Pe bai’n rhaid i fi ailadrodd yr haf hwn, byddwn i wrth fy modd yn ei wneud eto!