Yn dilyn cylch llwyddiannus cyntaf y Prosiect Mentora Ffiseg, rydym  ni wedi rhoi’r argymhellion a awgrymwyd gan werthuswyr allanol y prosiect, OnData Research Ltd, ar waith.

Roedd hyn yn cynnwys cysylltu’r deunyddiau hyfforddi a chymorth i fentoriaid â’r Dull Addysgu Cyfalaf Gwyddoniaeth, sy’n fethodoleg ar gyfer addysgu gwyddonol cynhwysol a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ac athrawon. Mae’r gwerthuswyr wedi darparu ail adroddiad interim yn cwmpasu’r ail gylch mentora.

Yng nghylch 2 cafwyd cynnydd yn y nifer o ysgolion a fu’n cyfranogi, o 9 i 14. Roedd % cyfartaledd prydau ysgol am ddim yr ysgolion hyn yn 21%, llawer yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 16%. Ar draws y 5 sefydliad partner, roedd cyfanswm o 25 mentor yn cymryd rhan gyda rhaniad rhywedd o 56% gwryw a 44% benyw, gyda dau siaradwr Cymraeg yn eu plith a saith mentor yn dychwelyd o gylch 1 yn 2018-19.

Gwelwyd yr un tueddiadau cadarnhaol a welwyd yn y cylch cyntaf eto yn yr ail; cafwyd symudiad cryf i ffwrdd o fyfyrwyr yn teimlo eu bod yn “ansicr“, “siŵr o fod ddim” neu “bendant ddim” am ddewis Safon Uwch Ffiseg, at “bendant am wneud” a “siŵr o fod am wneud“. Gwelir symudiad cadarnhaol tebyg o ran bwriad i fynd i yrfaoedd STEM. Mae’r gwerthuswyr, drwy ddull cyfunol, wedi nodi bod y Prosiect Mentora Ffiseg yn chwarae rhan allweddol ym mhenderfyniadau’r menteion. Caiff casgliadau mwy cadarn yn ystadegol eu tynnu ar ddiwedd cylch 3, unwaith y bydd data llawn wedi’i gasglu. Ochr yn ochr â’r data hwn, dywed yr adroddiad bod “athrawon yn awyddus i bwysleisio nad yw hwn yn brofiad ar gyfer y myfyrwyr set uchaf yn unig ac y gall myfyrwyr ffiniol gradd C/D weld effaith gadarnhaol iawn ar eu perfformiad drwy gynyddu eu hyder yn dilyn cyfranogi yn y Prosiect Mentora Ffiseg.”

Mae’r adroddiad hefyd yn sôn am effaith bod yn fentor ar brofiad y myfyriwr (israddedig) a chyflogadwyedd. Cytunodd mentoriaid fod buddion cyfranogi’n cynnwys datblygu sgiliau trefnu a chyfathrebu, meithrin hyder, profiad enghreifftiol ar gyfer CVs a chyfweliadau i helpu gyda phrofiad os ydynt yn bwriadu addysgu neu wirfoddoli (e.e. Sgowtiaid). Caiff bwriad y mentoriaid i fynd i ddysgu ei archwilio’n benodol yn adroddiad terfynol y prosiect.

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn. Mae blwyddyn beilot y Prosiect Mentora Ffiseg wedi’i estyn, gan sicrhau cyflwyno trydydd cylch o fentora mewn ysgolion, a disgwylir y caiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi yn yr haf.