Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg wedi cael adroddiad gwerthuso interim gan eu gwerthuswyr prosiect allanol, OnData, ynghylch y cylch mentora cyntaf.

87 o fyfyrwyr blwyddyn 10 ac 11 (52% ohonynt yn ferched) o 9 ysgol yng Nghymru yn y cyfnod rhwng Ionawr a Mehefin 2019. Ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen mentora, dangosodd mentoreion agwedd fwy cadarnhaol tuag at astudio ffiseg ar gyfer Safon Uwch. Gwelwyd gwelliant hefyd yn nifer y mentoreion benywaidd a oedd yn dangos diddordeb mewn dewis gyrfa yn ymwneud â STEM. Ymddengys fod cymryd rhan yn y prosiect wedi helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus. Roedd y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y prosiect yn fwy pendant am benderfyniadau yn ymwneud â Safon Uwch, tra bod y rhai nad oedd yn cymryd rhan yn fwy ansicr.

Roedd mentoreion (a lenwodd y cyfnodolion myfyrio a’u dychwelyd) yn gadarnhaol iawn am y profiad. Cafwyd adroddiadau cyson bod y sesiynau yn ddiddorol, bod y mentoreion yn eu hannog a’u cefnogi, a’u bod wedi dysgu mwy am ffiseg o ran gwybodaeth am y pwnc, gyrfaoedd a pherthnasedd Ffiseg i bynciau gwyddoniaeth eraill a’r byd ehangach.

Roedd y mentoreion a gwblhaodd y cyfnodolion myfyrio yn llawn yn gadarnhaol iawn am y profiad ac wedi dweud yr hoffent gymryd rhan eto yn y dyfodol, a’i fod yn ffordd dda o ymgysylltu â phobl ifanc; grŵp oedran a ystyriwyd yn flaenorol fel grŵp heriol. Roedd mentoriaid yn mwynhau gallu rhannu eu profiad personol eu hunain er budd eraill, er mwyn eu helpu i gael gwell dealltwriaeth o sut beth yw astudio ffiseg.

Mae tîm y prosiect wedi bod yn gweithio’n galed dros yr haf i weithredu gwelliannau yn seiliedig ar argymhellion yr adroddiad. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn.