Lille ydw i, myfyriwr meistr blwyddyn olaf mewn ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Flwyddyn a hanner yn ôl cefais fy sesiwn hyfforddi gyntaf i ddod yn fentor ffiseg. Ers hynny rwyf i wedi gweithio ar draws tair ysgol, cael cyfweliad gan y BBC, ac ym mis Medi byddaf i’n dechrau cwrs TAR i ddod yn athro ffiseg uwchradd.
Clywais i am y Prosiect Mentora Ffiseg drwy fy ngradd a gan fy mod eisoes yn frwd dros waith allgymorth ffiseg, roedd yn gyfle gwych i roi cynnig ar ddysgu a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. O’r hyfforddiant dechreuais i ddysgu a meddwl sut i gynllunio fy ngwersi fy hun ac ymdrin â rhai o’r problemau ehangach mewn addysg ffiseg fel tueddiadau diarwybod. Yn wir siaradais i â BBC Radio Wales am ganfyddiadau o STEM fel rhan o gyfres o gyfweliadau BBC.
Un o’r pethau gorau am y prosiect oedd cael rhwydwaith o bobl o wahanol gefndiroedd i siarad am addysgu a mentora. Roedd gallu rhannu profiadau gyda mentoriaid eraill yn helpu i wneud popeth yn llai brawychus ac roedd gallu trafod syniadau gyda staff y prosiect yn golygu fy mod yn gallu rhoi llawer o’r hyn oedd yn fy nghyffroi yn y sesiynau mewn ffordd fyddai’n hygyrch ac yn ddifyr i’r menteion. Roedd y cyswllt gydag athrawon gwyddoniaeth yn yr ysgol hefyd yn gyfle gwych i drafod dysgu gyda nhw a chael gwell syniad am wersi da yn ogystal â chlywed sut beth yw bywyd athro ffiseg o ddydd i ddydd. Roedd yn dda gweld y menteion yn datblygu ac yn dod yn fwy hyderus rhwng pob sesiwn. Wrth i ni greu perthynas, her ddiddorol oedd cynnwys pynciau roedd gan y menteion ddiddordeb ynddyn nhw yn y sesiynau a chael sgyrsiau pur annisgwyl gyda nhw.
Yn bwysicaf oll i fi, helpodd y profiadau hyn fi i benderfynu fy mod am fynd i ddysgu ar ôl cwblhau fy ngradd meistr. Ers hynny rwyf i wedi defnyddio popeth rwyf i wedi’i ddysgu i ymgeisio ar gyfer TAR er mwyn i mi gymhwyso’n athro. Cefais gynnig lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio TAR Ffiseg Uwchradd, ac rwyf i hefyd wedi derbyn ysgoloriaeth gan y Sefydliad Ffiseg i gyllido fy astudiaethau. Ar gyfer y broses gyfweld ar gyfer TAR a’r ysgoloriaeth roedd rhaid i fi gyflwyno ffug wersi addas i grwpiau oed tebyg i’r rheini roeddwn i wedi bod yn eu mentora, ac roeddwn i’n gallu gwneud hyn yn hyderus. Roedd rhaid i fi hefyd adfyfyrio ar fy mhrofiad o bynciau fel rheoli’r dosbarth, anghydraddoldeb o ran rhywedd ac ymdrin â chamganfyddiadau cyffredin mewn ffiseg, ac roeddwn i’n gallu siarad am y rhain yn fanwl gan i mi fod yn gyfarwydd â nhw.
Wrth edrych yn ôl ar fy nghyfnod gyda’r prosiect, rwyf i wedi cael llu o sgiliau newydd sydd wedi bod yn hynod o werthfawr i fi ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i’w meithrin wrth i fi gymhwyso i ddysgu. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Rosie Mellors, sydd wedi chwarae rhan fawr yn y cynnydd rwyf i wedi’i wneud a’r mwynhad rwyf i wedi’i gael yn y prosiect.