Dyfarnwyd cyllid i’r Prosiect Mentora Ffiseg gan y gronfa Arloesedd i Bawb ym Mhrifysgol Caerdydd i weld sut y gall y prosiect gynnig cefnogaeth ar gyfer ystod ehangach o lwybrau ôl-16 i ffiseg.

Cafodd yr ymarfer cwmpasu hwn, a gynhaliwyd rhwng Ebrill ac Awst 2022, ei gynnal mewn cydweithrediad â Gyrfa Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Comisiynwyd Ondata Research Ltd. i gynnal ymchwil ymhlith athrawon ffiseg, disgyblion presennol ysgolion a cholegau, a rhanddeiliaid perthnasol eraill.

Canlyniadau Adroddiadau

Gwnaethom gyflwyno canfyddiadau’r adroddiad i randdeiliaid yn Academi STEAM Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Awst 2022. Mae’r canfyddiadau’n dangos y bydd ehangu’r prosiect yn ei gwneud yn fwy perthnasol i ddiwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.  Nododd hefyd fod bwlch sgiliau hirdymor yng Nghymru, yn ogystal â thwf mewn swyddi sy’n gysylltiedig â ffiseg ar draws ystod o sectorau. Yn seiliedig ar yr argymhellion, mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn bwriadu canolbwyntio ar amlygu sgiliau sy’n gysylltiedig â ffiseg sy’n ofynnol ar gyfer rolau lle nad oes angen cymhwyster lefel gradd. At hynny, byddai’r prosiect yn rhoi arweiniad a disgrifiadau mwy eglur o lwybrau sy’n gysylltiedig â ffiseg. Mae cyfle clir i’r prosiect gyfrannu at gyflawni ystod eang o nodau polisi mewn perthynas ag addysg, cyflogadwyedd a sgiliau. 

Y Camau Nesaf

Rydym yn parhau i weithio gyda Gyrfa Cymru i ehangu gorwelion myfyrwyr o ran prentisiaethau. Mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru ac ysgol sy’n cymryd rhan, rydym yn cynnal digwyddiad peilot ar gyfer myfyrwyr lefel TGAU ym mis Ebrill 2023. Rydym yn gobeithio parhau i weithio gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion sy’n cymryd rhan i ddatblygu’r digwyddiadau hyn ymhellach.

Mae crynodeb gweithredol o’r ymarfer cwmpasu hwn wedi’i gyhoeddi yma.

Mae’r Tîm Mentora Ffiseg wrth eu bodd gyda’r adroddiad, a’r cyfleoedd a’r posibilrwydd o ehangu’r prosiect yn y dyfodol. Hoffai Mentora Ffiseg ddiolch i Ondata Research am eu hymchwil a’u hargymhellion cynhwysfawr. Hoffem hefyd ddiolch i Gyrfa Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam am eu cyfraniadau at yr ymarfer cwmpasu hwn. Hoffem hefyd ddiolch i Academi STEAM Pen-y-bont ar Ogwr am ein croesawu ar gyfer lansiad yr adroddiad ac am gyfrannu at yr adroddiad. Hefyd, yr holl ysgolion a gymerodd ran yn yr ymchwil.