Ddydd Mercher 22 Chwefror, bu noson ddathlu yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd gan y Prosiect Mentora Ffiseg.

Gwahoddodd y digwyddiad bartneriaid prosiect, athrawon, mentoriaid, ac – am y tro cyntaf – mae cyn-fyfyrwyr yn ymuno â’i gilydd i ddathlu gwobr ddiweddar y prosiect am “Ragoriaeth i Gefnogi Llysgenhadon Myfyrwyr” gan Ymddiriedolaeth Ogden. Cyflwynodd y tîm ganlyniadau gwerthuso diweddaraf y prosiect, gan ddiolch i bawb am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd sydd wedi gwneud y prosiect mor llwyddiannus.

Rhan o genhadaeth Ymddiriedolaeth Ogden yw “hyrwyddo addysgu a dysgu ffiseg”, gyda’r nod o annog graddedigion i ddilyn gyrfa ym maes addysgu. Roedd rhan o’r noson yn cael ei neilltuo i lawenydd addysgu, gyda Chemaine Barrett, Swyddog Allgymorth a Recriwtio Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ac athro gwyddoniaeth ar gyfnod sabothol, yn cynnig fideo yn tynnu sylw at lawenydd addysgu. Yn ystod rhan rwydweithio’r noson, cafodd gwesteion eu hannog i gyfweld â’i gilydd am ddyheadau dysgu fel rhan o vox pop a drefnodd gwerthuswyr y prosiect, OnData.

Hoffai’r Prosiect Mentora Ffiseg ddiolch i’r athrawon, y mentoriaid, a’r partneriaid a wnaeth y dathliad hwn yn bosibl. Allen ni ddim fod wedi cael y wobr heb yr holl fentoriaid sydd wedi mynd o’r blaen – roedd y tîm yn falch o allu croesawu cyn-fyfyrwyr yn ôl o bob Cylch a’u gwobrwyo am eu holl waith caled. Croesawon ni nôl aelodau tîm y prosiect, Rosie (Cydlynydd Cenedlaethol) a Grace (Swyddog Prosiect/Rheolwr Prosiect Dros Dro). Diolch hefyd i’n gwerthuswr, Laura, am hwyluso’r adborth o’r digwyddiad.