Yr wythnos hon, mae ysgolion ledled y wlad yn gorffen ar gyfer yr haf ac mae mentoriaid yn cael eu sesiynau myfyrio terfynol gyda’u mentoreion. Mae’r flwyddyn ysgol hon wedi edrych yn wahanol iawn i eraill ac mae Mentora Ffiseg wedi ymaddasu i ffyrdd newydd o weithio yn gyffredinol. Nid yw wedi bod yn hawdd, ond mae wedi bod yn hynod werth chweil.

Rydw i am longyfarch yr holl fentoreion, ond hefyd staff yr ysgol a’r mentoriaid sydd wedi gweithio’n galed i hwyluso mentora mewn ysgolion ledled Cymru. Mae pawb wedi wynebu profiadau newydd gyda meddwl agored a brwdfrydedd diamheuol. Gobeithio bod pawb ar y prosiect wedi cael agoriad llygad ac wedi dysgu pethau newydd amdanynt eu hunain a ffiseg – rydw i wedi dysgu llawer!

Mae’r mentoriaid hefyd wedi bod yn myfyrio ar eu hamser gyda’u mentoreion ac wedi sôn am eu sesiynau mentora. Gallwch eu gweld yn y fideo hwn. Rydw i hefyd yn falch iawn o allu llongyfarch Jeremy Miles MS, y Gweinidog Addysg ac Iaith Gymraeg, sydd wedi diolch i’r rhai a gymrodd rhan yn y prosiect a chydnabod eu hymdrechion mewn datganiad y gallwch ddarllen yma.

Ochr yn ochr â gwaith gwych yr athrawon, y mentoriaid a’r mentoreion, rwy’n ddiolchgar am ymdrechion cyswllt prifysgol y prosiect, y grŵp llywio, ein holl staff hyfforddi allanol a gweddill tîm y prosiect. Edrychaf ymlaen at ehangu ein cyrhaeddiad i fwy o ysgolion ledled Cymru yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod, ond yn gyntaf rydw i am gael gorffwys dros yr haf!