Un o’r heriau wrth gyrraedd ysgolion yw Cymru yw daearyddiaeth ein gwlad, a’r amseroedd teithio posibl rhwng lleoliadau ein Mentoriaid (prifysgolion) a’r rhai sy’n cael eu mentora (ledled y wlad).

Beth yw’r Prosiect Mentora Fideo?

Fel prosiect, roedd y syniad o “Fentora Fideo” wedi bod yn uchelgais ers tro, ond yn un a gafodd ei gyflymu gan effeithiau pandemig y Coronafeirws.

Roedd effaith ariannol y pandemig ar ein cyllidwyr hefyd yn rhoi cyllid craidd y Prosiect mewn perygl, a daeth y cysyniad o Fentora Fideo yn ffordd o rannu ein hadnoddau a’n dysgu. Gyda chymorth gan Sefydliad Waterloo, roeddem yn bwriadu creu ffilmiau a baratowyd ymlaen llaw ynghylch gweithgareddau dan arweiniad mentoreion a’u rhoi ar wefan Mentora Ffiseg.

Yn ffodus, ar ôl i’r Prosiect Mentora Ffiseg craidd gael rhagor o gyllid o fis Medi 2020 ymlaen, roedd modd i’r prosiect barhau. Roedd hyn yn golygu nad oedd y prosiect Mentora Fideo bellach yn brosiect etifeddiaeth, ond un a fyddai’n cynnig adnoddau o ansawdd uchel i ddyfnhau effaith y prosiect mentora craidd. Roedd hyn yn arbennig o ffodus ar adeg pan oedd y prosiect yn symud ei ddarpariaeth ar-lein oherwydd y pandemig. Roedd hefyd yn ein galluogi i oresgyn rhwystrau daearyddol, tra’n parhau i ddarparu mentora ystyrlon i fyfyrwyr ysgol ledled Cymru.

Cynhyrchwyd yr holl fideos ar y cyd â’r fideograffydd clodwiw o Gymru, Ffocws Media, ac mae’r holl adnoddau a fideos ar gael yn ddwyieithog.

Cafodd yr adnoddau Mentora Fideo eu gwerthuso fel rhan o raglen Fentora ehangach y Prosiect Mentora Ffiseg, a chafwyd gwerthusiad ar wahân gan ein partneriaid gwerthuso OnData Research Ltd. Gallwch ddod o hyd i’n hadroddiad ynghylch y Gwerthusiad o’r Mentora Fideo yma. I gael gwerthusiad llawn o’r rhaglen graidd, darllenwch ein Hadroddiad Gwerthuso Blynyddol 2021-2022 yma.

Effaith ar Fentoreion

Yn ystod y cylchoedd mentora pan ddefnyddiwyd y fideos (pump a chwech), bu symudiad i ffwrdd o fentoreion sy’n ansicr ynglŷn â’u dyfodol a chynnydd yn y rhai sy’n nodi y byddant yn “debygol neu’n bendant” yn dewis Safon Uwch Ffiseg, yn ogystal â chynnydd yn y rhai sy’n bwriadu dilyn gyrfa mewn STEM. Canfuwyd bod y ffilmiau’n effeithiol, o ansawdd uchel, ac yn berthnasol i’r mentoreion fel cynulleidfa. Mae defnyddio pobl o ystod amrywiol o yrfaoedd a chefndiroedd yn y fideos yn ehangu’r mathau o fodelau rôl sydd ar gael i’r mentoreion, a gyfrannodd at wella canfyddiadau o ffiseg ymhlith mentoreion.

Effaith ar Fentoriaid

Yn ystod y cylchoedd hyn, roedd y rhan fwyaf o’r Mentoriaid yn teimlo’n gadarnhaol am y fideos ac yn eu defnyddio yn eu sesiynau mentora mewn amrywiaeth o ffyrdd (fel sail ar gyfer sesiwn neu ar gyfer rhan o sesiwn, neu fel ysbrydoliaeth). Mae darparu adnoddau fideo o ansawdd uchel wrth newid i gyflwyno’r prosiect craidd ar-lein wedi cynyddu effaith arfaethedig y prosiect Mentora Fideo a’i etifeddiaeth.

Mae’r tîm Mentora Ffiseg wrth ei fodd gyda’r canlyniadau yn yr adroddiad, sydd ar gael i’w ddarllen yn llawn yma. Hoffai’r prosiect Mentora Ffiseg ddiolch i Ondata Research am eu hymchwil ac argymhellion cynhwysfawr sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect.

Os hoffech ddefnyddio ein fideos ac adnoddau, gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif ar ein platfform Mentora Fideo newydd am ddim.