Pwy ydw i?

Helo! Yusuf ydw i. Rwy’n fyfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydw i wedi cwblhau fy mlwyddyn gyntaf o fentora eleni. Y tu allan i Ffiseg, rwy’n astudio Japaneeg gydag adran Ieithoedd i Bawb y Brifysgol ac rwy’n aelod o dîm karate’r Brifysgol.

Fy Nhaith trwy faes Ffiseg

Rydw i bob amser wedi mwynhau Ffiseg ers yn ifanc iawn ac roedd yn well gen i ddarllen llyfrau ar seryddiaeth yn hytrach na ffuglen. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gwrthrychau fel planedau, sêr ac asteroidau. Roedd fel pe baen nhw’n dal ymdeimlad o ddirgelwch hyd yn oed yn ystod fy mhlentyndod. Yn yr Ysgol Uwchradd, roeddwn i’n ffodus i gael athrawes Ffiseg wych a oedd yn croesawu fy holl gwestiynau ac fe wnaeth hyn ehangu fy mrwdfrydedd dros y pwnc.

Fodd bynnag, yn ystod y chweched dosbarth, daeth Ffiseg yn dipyn o drafferth oherwydd y dulliau addysgu yn fy ysgol newydd. Fe wnes i hyd yn oed ystyried dilyn gradd mewn Cemeg ar un adeg. Serch hynny, fe wnaeth ymweliad â phrosiect CERN y Swistir ailgynnau fy angerdd am Ffiseg. Roedd yn ysbrydoledig gweld sut mae Ffiseg yn cael ei chymhwyso mewn ymchwil a datblygiad technolegol. Ar ôl gorffen fy Lefel A (yn llwyddiannus) fe ddes i i Brifysgol Caerdydd fis Medi diwethaf. Rydw i’n mwynhau fy mlwyddyn gyntaf o astudiaethau israddedig, yn enwedig y gwaith labordy.

Fy Mhrofiad o Fentora
A spaghetti and marshmallow tower made during one of Yusuf's mentoring sessions.

Ar ôl bod yn fentor am flwyddyn, rydw i wedi mwynhau’r profiad yn fawr. I ddechrau, roeddwn i’n eithaf nerfus am y dasg o feithrin angerdd am ffiseg, ond roedd y broses gyfan o gyflwyno sesiynau yn werth chweil, gyda’r mentoreion yn gyffrous am drafod cysyniadau. Roeddwn i wedi mwynhau’r agweddau mwy ymarferol o’r sesiynau yn fawr iawn, lle roedd sylw pennaf ar y mentoreion yn y gwaith na ni.

Boed yn ddamcaniaethol neu wedi’u cymhwyso’n llawn, mae gan agweddau at Ffiseg rywbeth i’w gynnig i bawb, yn enwedig pan fo’r llwybrau ar gyfer cymwysiadau o’r fath mor eang. Rydw i yn annog unrhyw un i fentora a rhoi yn ôl i gymuned wyddonol y dyfodol.