Pwy ydw i?
Helo! Tia ydw i. Rwy’n fyfyriwr israddedig mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydw i wedi bod yn fentor am 2 dymor, a phan nad ydw i’n mentora, rydw i wir yn mwynhau darllen, gwrando ar gerddoriaeth, a gwneud posau meddwl.
Fy Nhaith trwy faes Ffiseg
Mae fy nhaith drwy faes ffiseg yn eithaf eironig oherwydd roeddwn i’n arfer casáu’r pwnc. Cefais fy annog i beidio dewis TGAU Gwyddoniaeth Driphlyg gan ambell i athro gan fy mod i’n fenyw, a cefais wybod nad fy lle i oedd ei astudio. Ond roeddwn i’n benderfynol, felly fe ddewisais i’r pwnc i’w profi nhw’n anghywir, ond rhwng blwyddyn 7 a 9, roeddwn i’n casáu Ffiseg. Ond newidiodd pethau’n gyfan gwbl ym mlwyddyn 10! Roeddwn i’n llawer mwy medrus yn academaidd yn y pwnc, oedd wedi bod yn broblem yn y gorffennol gan fy mod i wedi newid ysgolion a chwricwlwm, a ches i athrawes newydd, Mrs. D, oedd yn wych. Roedd hi wedi fy nghlywed yn dweud ‘mod i’n casáu Ffiseg ac yn methu aros i’w ollwng ar ôl TGAU. Fe heriodd hi fi y byddai hi’n newid fy meddwl erbyn diwedd y flwyddyn, a dysgodd fi i gadw meddwl agored am Ffiseg. Roedd hi’n gywir! Dechreuon ni astudio astroffiseg; edrych ar darddiad sêr a’u cylchoedd bywyd, a thrafod damcaniaethau ar sut mae bodau dynol wedi ein creu o lwch sêr – cysyniadau oedd yn gwbl syfrdanol i fi. Ar ôl hynny, fe wnes i bob math o ymchwil mewn i ffiseg gan ‘mod i eisiau gwybod mwy nag yr oeddwn wedi’i ddysgu yn yr ysgol, ac erbyn diwedd fy arholiadau TGAU, roeddwn i wrth fy modd gyda’r pwnc, ac roeddwn i eisiau dod o hyd i’r atebion i gymaint o gwestiynau. Des i i sylweddoli hwn ar ôl dewis fy mhynciau Safon Uwch, a oedd i ddechrau i gyd yn bynciau tebyg i Saesneg (fy hoff bwnc arall). Erbyn diwedd yr haf, roeddwn i wedi newid fy newisiadau i astudio i Ffiseg a Mathemateg ynghyd â Saesneg ac Astudiaethau Theatr; dau lwybr gwahanol rhag ofn i fi newid fy meddwl. Nawr, rwy’n astudio am radd mewn Ffiseg – ac er bod hynny wedi bod braidd yn annisgwyl, rydw i’n falch ‘mod i wedi dewis ffiseg achos allwn i ddim dychmygu gwneud unrhyw beth arall erbyn hyn.
Fy Mhrofiad yn Mentora
Mae bod yn Fentor eleni wedi bod yn brofiad hollol ffantastig. Rydw i wedi mwynhau cynnal sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan ddangos i bobl ifanc – yn enwedig merched – cymaint o gyfleoedd gwahanol sydd ar gael wrth astudio Ffiseg Safon Uwch, a dad-stigmateiddio’r syniad mai dim ond pobl hynod ddeallus neu ddynion all astudio ffiseg. Mae hynny’n arbennig o bwysig i fi oherwydd dyna’r syniad y cyflwynwyd o ffiseg i fi yn yr ysgol. Mae’r ffyrdd hynny o feddwl yn gadael argraff barhaol ar rywun, yn enwedig ar rywun o oedran ysgol uwchradd. Mae ffiseg yn bwnc sy’n agored i bawb; rydych chi’n ennill cymaint o sgiliau trosglwyddadwy o ddeall cysyniadau sylfaenol ffiseg, hyd yn oed, ac maen nhw’n gallu eich arwain i bob math o lwybr gyrfa gwahanol. Wnaeth rhai ohonyn nhw fy synnu i pan roeddwn i’n ymchwilio i’r peth. Hefyd, mae cymaint o wahanol agweddau o fewn ffiseg i’w darganfod y tu hwnt i Safon Uwch! Rwy’n gobeithio parhau i ddangos hyn i bobl ifanc a helpu i’w hysbrydoli i astudio ffiseg, fel y gwnaeth Mrs D fy ysbrydoli innau.