Mae bron i ddwy flynedd a hanner wedi mynd ers fy niwrnod hyfforddi cyntaf gyda’r Prosiect Mentora Ffiseg. Mae ysgrifennu’r blog hwn ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i mi fyfyrio ar y profiadau rwyf i wedi’u cael yn gweithio ym maes STEM a sut mae mentoriaid yn cynnig profiadau cadarnhaol mewn ysgolion.

Wrth feddwl yn ôl i fy niwrnod hyfforddi cyntaf, rwy’n cofio’r sesiwn a gyflwynwyd gan yr IOP. Un o’r pynciau mawr a drafodwyd oedd rhagfarn ddiarwybod, gyda llawer o gyfeiriadau at ymchwil. Helpodd hyn yn fawr gyda chynllunio sesiynau mentora ac arweiniodd at sgyrsiau agored am feddyliau’r myfyrwyr. Dechreuais sylweddoli pa mor gynnil y gall rhagfarn fod, a chafodd hynny effaith ar y gwersi a gyflwynais yn ystod fy nghwrs TAR. Rwy’n cofio cael adborth gwych yn ystod TAR am roi cynrychiolaeth o wahanol grwpiau yn y gwersi roeddwn i’n eu cyflwyno, oedd wedi dod yn rhywbeth arferol oherwydd fy nghyfnod ar y prosiect mentora.

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw #ChwaluRhagfarn / #BreaktheBias. Os chwiliwch chi am yr hashnod, fe welwch lawer o waith rhyfeddol gan bobl a sefydliadau gwahanol ledled y byd. Yn aml, caiff llai ei ddweud am sut mae rhagfarn yn edrych neu’n teimlo mewn gwirionedd y tu hwnt i’r ystadegau. Siaradais â ffrindiau yr wythnos hon am eu profiadau ym maes STEM; soniodd un am sylweddoli mai hi oedd yr unig fenyw mewn cyfarfod neu nad oedd dim grwpiau lleiafrifol i’w gweld mewn swyddi uwch. Soniodd ffrind arall am y teimlad fod rhaid iddi amddiffyn ei dadleuon yn fwy na’i chymheiriaid gwrywaidd. Soniodd eraill y dywedwyd wrthyn nhw fod pynciau STEM yn rhy anodd ar Safon Uwch neu weld brodyr a chwiorydd o’r rhywedd arall yn cael eu trin yn wahanol yn yr ysgol. Enghreifftiau syml yw’r rhain, ond y darlun mawr yw y gall fod yn anoddach i leiafrifoedd fynd i mewn i STEM ac aros yno, waeth beth yw eu hoed. Yn y pen draw, mae’r diffyg amrywiaeth yma’n rhwystro pawb.

Mae’n wych gwybod y bydd y mentoriaid presennol yn cael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr drwy weithredu fel modelau rôl a siarad am y bobl a’u hysbrydolodd. Mae’r prosiect mentora ffiseg yn helpu i roi golwg newydd ar ffiseg i fyfyrwyr ac yn rhoi lle iddyn nhw fod yn agored a holi’r cwestiynau y gallen nhw fod yn betrus am eu gofyn i athro. Mae gan rai o’r profiadau o ragfarn a grybwyllais elfen gyffredin o deimlo allan o le ac mae cael mentoriaid sy’n meithrin perthynas ac yn cynllunio gwersi sy’n canolbwyntio ar gynrychiolaeth yn helpu i wneud i’r menteion deimlo eu bod yn cael eu clywed. Mae’n wych hefyd i fentoriaid fod ganddyn nhw eu cymuned amrywiol eu hunain i rannu syniadau a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi ar yr un pryd.

Gobeithio y bydd yr holl fentoriaid a menteion gwych yn gadael y prosiect yn teimlo bod yr ymgysylltu cymunedol maen nhw wedi bod yn rhan ohono yn cael effaith gadarnhaol ac y byddan nhw’n parhau i eiriol dros bawb. Afraid dweud hefyd fy mod yn ddiolchgar i’r bobl a rannodd eu profiadau gonest gyda fi yr wythnos hon.