Bob blwyddyn, mae gwahaniaeth mawr rhwng nifer y merched sy’n astudio ffiseg Safon Uwch, o gymharu â’r rhai sy’n astudio bioleg neu gemeg. Nod y Prosiect Mentora Ffiseg yw cynyddu nifer y disgyblion ysgol, yn enwedig merched, sy’n cymryd Ffiseg safon Uwch, drwy dynnu sylw at gyfleoedd gyrfa a hyrwyddo sgiliau trosglwyddadwy.

Yn ystod cylch mentora, caiff Mentor Ffiseg o brifysgol ei baru ag ysgol leol, lle byddant yn cynnal chwe sesiwn fentora gyda grwpiau bach o ddisgyblion ysgol uwchradd. Y tymor hwn, gall mentoriaid hefyd gyfrannu at ddylunio a chreu fideos mentora mewn cydweithrediad â thîm y prosiect a fideograffydd proffesiynol.

Drwy gymryd rhan yn y prosiect, mae mentoriaid ffiseg blaenorol wedi nodi gwelliannau yn eu hyder eu hunain, wedi datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ac wedi defnyddio’r profiad ar eu CV graddedig.

Mae’r cyfle i fod yn Fentor Ffiseg ar gael i unrhyw un sydd:

  • yn fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe neu Brifysgol De Cymru,
  • yn meddu ar gymhwyster ôl-16 mewn Ffiseg, ac
  • yn frwdfrydig dros Ffiseg, cynhwysiant mewn STEM ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr!

Caiff pob mentor ei hyfforddi’n llawn, ac felly anogir unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf uchod i wneud cais, ni waeth beth fo’i brofiad.

Bydd modd cyflwyno ceisiadau yma tan 23:59 ddydd Sul 18 Hydref 2020. Cyn gwneud cais, darllenwch y Daflen Wybodaeth i Fentoriaid Ffiseg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.