Ers 2019, mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i annog mwy o bobl i ystyried astudio ffiseg ar gyfer Safon Uwch a thu hwnt. Er mwyn parhau i ddatblygu’r prosiect a chael gwell dealltwriaeth o’i effaith hirdymor, mae gan y prosiect ddiddordeb mewn casglu gwybodaeth gan ddisgyblion ffiseg Safon Uwch cyfredol am eu bwriadau a’u dyheadau mewn perthynas â’u hastudiaethau a’u gyrfa. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ofyn i’ch disgyblion Safon Uwch Ffiseg presennol gwblhau’r arolwg byr drwy glicio’r botwm isod:

Mae croeso i bob disgybl Ffiseg Safon Uwch gwblhau’r arolwg. Nid oes angen iddynt fod wedi bod yn rhan o’r prosiect mentora. Mae gennym ddiddordeb mewn deall cymhellion cyffredinol dros ddewis Ffiseg Safon Uwch ymhlith disgyblion Cymru.

Rydym yn cadw’r arolwg ar agor tan ddiwedd tymor yr haf a byddwn yn anfon nodyn atgoffa yn nes at ddiwedd y tymor. Os oes gennych gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.

Bydd y canfyddiadau yn cael eu crynhoi mewn adroddiad yn ddiweddarach eleni gan werthuswyr annibynnol y Prosiect Mentora Ffiseg, Ondata Research.