Ychydig wythnosau yn ôl roedd y Prosiect Mentora Ffiseg yn falch o gyflwyno ein cangen fwyaf newydd o’r enw “Mentora Ffiseg – Archwilio Cysylltiadau”. Sefydlwyd Archwilio Cysylltiadau i amlygu’r llwybrau wahanol i Ffiseg a STEM, gan barhau i wneud Ffiseg yn berthnasol i fywydau myfyrwyr ysgol. Roedd y digwyddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd cyflogaeth STEM yn yr ardal leol.
Wedi’i gynnal yng Ngholeg y Cymoedd, gwahoddodd i’r digwyddiad bum cyflogwr STEM lleol i weithio gyda myfyrwyr TGAU. Roedd rhai o’r myfyrwyr wedi cwblhau’r Prosiect Mentora Ffiseg TGAU dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Cafodd y myfyrwyr gyfle i weithio gydag Axiom, Balfour-Beatty, Bute Energy, GE Engineering a Space Forge ar weithgareddau ymarferol. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys adeiladu pontydd, gwneud rocedi, a pheirianneg gwrthdroi gan ddefnyddio Lego. Bu’r myfyrwyr hefyd yn ymgysylltu â phrentisiaid o Axiom a GE Engineering. Cawsant gyfle i siarad â nhw am eu bywydau fel prentisiaid a dysgu mwy am y llwybr amgen hwn i ffiseg a STEM.
Cymerodd tair ysgol rhan yn y digwyddiad: Ysgol Gyfun Brynteg, Ysgol Gymunedol Risca ac Ysgol Uwchradd Whitmore. Ar ddechrau’r dydd roedd y myfyrwyr yn ansicr beth fyddai digwyddiadau’r diwrnod yn eu cynnal ac yn rhagweld digwyddiad cyflogwr “arferol”. Erbyn diwedd y dydd, roedd yr adborth gan fyfyrwyr yn gadarnhaol iawn. Cafodd y cyfranogwyr eu synnu o’r ochr orau gan natur ymarferol y gweithgareddau a redir gan gyflogwyr drwy gydol y dydd a daeth tro o gwmpas y campws yn gynnwys ymweliad i’r gweithdy peirianneg mor boblogaidd nes bod yn rhaid i ni ei redeg ddwywaith i ffrwyno unrhyw siom yn y myfyrwyr a gollodd allan y tro cyntaf.
Rydym wrth ein bodd bod yr holl gyflogwyr hefyd wedi cael amser pleserus ar y diwrnod ac edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Bydd astudiaeth achos ar y digwyddiad hwn gan Ondata Research yn dilyn. Ac yn edrych at ddyfodol Archwilio Cysylltiadau, mae’r tîm yn paratoi i gynhyrchu fideo byr am fod yn brentis mewn STEM. Cadwch lygad ar y wefan am y ddau beth yma yn ystod y misoedd nesaf!
Gwnaed y digwyddiad hwn yn bosibl trwy bartneriaeth a chyllid rhwng Prifysgol Caerdydd, Coleg y Cymoedd, PDC, a Choleg STEAM Pen-y-bont ar Ogwr.
Lluniau gan Wales News