Mae’r adroddiad blynyddol yn amlinellu effaith pedwerydd cylch y prosiect, a gyflwynwyd o bell yn ystod gwanwyn a haf 2021. Fel mewn adroddiadau blaenorol, defnyddiwyd amrywiaeth o ganlyniadau i werthuso’r prosiect. Mae hyn yn cynnwys data ansoddol o gyfrifiadau disgyblion, ffurflenni myfyrio mentoriaid/mentoreion ac arolygon athrawon, ynghyd â data meintiol o arolygon disgyblion cyn ac ar ôl cymryd rhan.
Effaith ar fentoreion
O ran prif nod y prosiect i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio Safon Uwch Ffiseg, bu cynnydd o 7.1% yn nifer y mentoreion a ddewisodd “Byddaf yn bendant/mae’n debygol y byddaf” yn dewis Safon Uwch Ffiseg ar ôl cymryd rhan yn y prosiect, o gymharu â gostyngiad o 2.4% ymhlith myfyrwyr na chymerodd ran. Cafwyd cynnydd mwy sylweddol hefyd o ran diddordeb mewn gyrfa sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth ymhlith y rhai a gafodd eu mentora o gymharu â disgyblion na chymerodd ran, gyda dros 40% o’r mentoreion yn ystyried gyrfa mewn gwyddoniaeth a chynnydd o 9.5% yn nifer y mentoreion a atebodd “Byddaf yn bendant/mae’n debygol y byddaf” yn dilyn gyrfa sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, o gymharu â chynnydd llai o 7.1% ymhlith disgyblion na chymerodd ran. O’r mentoreion a gymerodd ran, roedd 66.7% yn ferched, gan roi hwb i un o nodau eraill y prosiect i gynyddu cyfranogiad merched mewn Ffiseg ôl-16.
O ystyried y tarfu ar addysg yn ystod Cylch 4 a’r ffaith y bu’n rhaid symud i blatfform ar-lein, mae’r cynnydd o ran diddordeb mewn Ffiseg ôl-16 ymhlith y mentoreion yn gyflawniad sylweddol.
Effaith ar athrawon ac ysgolion
Roedd yr adborth gan ysgolion yn ystod Cylch 4 yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Roedd athrawon yn teimlo bod y sesiynau ‘wedi’u cynllunio, eu cyflwyno a’u trefnu’n dda’ ac y llwyddwyd i gynnal ansawdd uchel wrth symud ar-lein. Roedd yr elfen ar-lein newydd hefyd yn galluogi ysgolion mwy anghysbell i gymryd rhan yn y prosiect, rhywbeth y mae’r athrawon yn teimlo sydd wedi annog eu disgyblion i astudio ymhellach i ffwrdd.
Effaith ar fentoriaid
Roedd y Mentoriaid eu hunain yn cael llawer o fudd drwy gymryd rhan yn y prosiect, gan gynnwys datblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu a rheoli amser. Roedd llawer o Fentoriaid yn teimlo bod y prosiect yn eu cysylltu â chymuned ehangach o bobl o’r un anian yn ystod cyfnod lle bu’n rhaid iddynt astudio gartref. Yng Nghylch 4 cyflwynwyd cyd-fentora hefyd, lle mae dau fentor yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno sesiynau i ddisgyblion; gwelwyd bod hyn yn gweithio’n arbennig o dda a bydd yn cael ei fabwysiadu ar gyfer y cylch mentora nesaf hefyd.
Mae’r tîm Mentora Ffiseg wrth ei fodd gyda’r canlyniadau yn yr adroddiad, sydd ar gael i’w ddarllen yn llawn yma. Hoffai prosiect Mentora Ffiseg ddiolch i Ondata Research am ei ymchwil ac argymhellion cynhwysfawr sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect.