Mae’r Rhaglen Mentora Ffiseg yn hyfforddi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i fentora ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol ledled Cymru.

Mae’r cydweithio rhwng wyth prifysgol (Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Wrecsam, Phrifysgol De Cymru, a’r Brifysgol Agored) yn adeiladu ar lwyddiant sefydledig y Brifysgol sydd wedi ennill gwobrau cynllun Mentora ITM. Mae ein mentoriaid yn gweithio gyda myfyrwyr uwchradd a Safon Uwch ledled Cymru i hyrwyddo cymwysterau ffiseg wrth gynyddu hyder a hunanymwybyddiaeth. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau partner.