1. Pwy ydyn ni

Mae Prosiect Mentora Ffiseg yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran Llywodraeth Cymru. Prifysgol Caerdydd yw’r prif gorff a fydd yn casglu, storio, prosesu, cynnal, glanhau a chadw data personol gan gynnwys data y’u diffinnir yn ddata sensitif.  Prifysgol Caerdydd bydd rheolwr data eich data personol chi. 

Mae ein prifysgolion partner yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, a Prifysgol Wrecsam. Mae ein partneriaid consortia’n cynnwys Consortiwm Canolbarth y De (CCD), GwE, Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru (CGA), Partneriaeth a Tyfu Canolbarth Cymru.

Nod y projectau Mentora Ffiseg yw cynyddu niferoedd dysgwyr sy’n dewis Ffiseg ar gyfer Safon Uwch. Rydyn ni’n gwneud hwn trwy ddarparu gwasanaeth mentora.

Yn yr hysbysiad yma, mae ‘projectau’ yn cyfeirio at brojectau Mentora Ffiseg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, Mentora Ffiseg a Chysylltiadau Pellach.

Mae’r ddogfen ganlynol yn esbonio sut rydyn ni (Mentora Ffiseg) yn casglu data, sut caiff y data eu prosesu, a’r camau rydyn ni’n eu cymryd i ddiogelu’r data.

  1. Sut byddwn yn defnyddio eich data

Rydym yn derbyn eich data personol am eich bod yn ymwneud â Prosiect Mentora Ffiseg. Rydym yn casglu data am gyfranogwyr i helpu’r prosiect i redeg yn esmwyth ac i gynnal ymchwil i’r sector dysgu STEM. Mae eich data yn cael ei gasglu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, a allai gynnwys arolygon ar-lein a/neu bapur. Nid yw ein gwaith dadansoddi’n ymwneud ag unrhyw berson penodol ac felly ni fyddwch yn cael eich adnabod fel unigolyn. Bydd yr holl ddata’n ddienw mewn unrhyw adroddiadau neu allbynnau ymchwil.

  1. Natur eich data personol y byddwn yn ei ddefnyddio

Gall categorïau eich data personol y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer y prosiect hwn gynnwys y canlynol, yn dibynnu ar natur eich rhan yn y prosiect. Os yw eich data’n cael eu casglu, cewch wybod ymlaen llaw er mwyn i chi allu cydsynio.

Myfyrwyr y Brifysgol (Mentoriaid):

Rhaid i unrhyw fyfyrwyr o’n prifysgolion partner sydd eisiau gwneud cais i fod yn rhan o’r prosiect rannu’r gwybodaeth bersonol ganlynol yn ystod eu hymgysylltiad â’r prosiect:

  • Enw llawn
  • Rhywedd
  • Dyddiad geni
  • Anabledd
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad post
  • Prifysgol
  • Rhaglen radd
  • Blwyddyn astudio

Athrawon:

Rhaid i athrawon ysgol uwchradd neu goleg Cymraeg sydd eisiau gwneud cais i fod yn rhan o’r prosiect, rannu’r gwybodaeth bersonol ganlynol gyda’r prosiect: 

  • Enw llawn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Ysgol

Dysgwyr Ysgol/Coleg (Mentoreion):

Rhaid i athrawon rannu’r gwybodaeth bersonol ganlynol am ddysgwyr wrth ymgysylltu â’r prosiect:

  • Enw llawn
  • Ysgol
  • Grŵp blwyddyn
  1. Pam mae Mentora Ffiseg yn casglu’r data hyn a pham mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Yn fwy na dim, mae Mentora Ffiseg yn casglu data ar unigolion ar gyfer y dibenion canlynol. Er mwyn i’n defnydd o’ch data personol fod yn gyfreithlon, mae angen i ni fodloni un (neu fwy) o’r amodau yn neddfwriaeth diogelu data GDPR a DPA 2018. At ddibenion y prosiect hwn (Mentora Ffiseg) a’r rhaglen mae’n ei darparu, byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar y seiliau cyfreithiol canlynol:

Math o Ddata PersonolDibenSail Gyfreithiol
Unrhyw ddata personol sydd wedi’u rhannu â’r prosiect hwn trwy holiaduron/ceisiadau i weithio ar y prosiect sydd wedi’u coladu trwy ar-lein neu arolygon papur.At ddibenion monitro sy’n  golygu bod modd i Mentora Ffiseg wneud y canlynol:
– Cyflawni prosesau adrodd yn ôl gorfodol i gyrff rheoleiddiol allanol megis Llywodraeth Cymru.
– Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y projectau.
– Darparu darlun clir o’r gweithgareddau rydyn ni’n eu darparu a’r bobl rydyn ni’n gweithio â nhw.
– Cynhyrchu ystadegau, gan gynnwys niferoedd y ceisiadau i ddigwyddiadau a niferoedd y cyfranogwyr a deilliannau’r cyfranogwyr.  
Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad ar gyfer ymchwil y cyhoedd a gafodd ei sefydlu gan siarter frenhinol i wella gwybodaeth ac addysg trwy ei weithgareddau ymchwil ac addysgu. Yn sgil hynny, caiff data personol eu prosesu ar y sail eu bod yn angenrheidiol i gyflawni ein tasg i’r cyhoedd, ar gyfer dibenion gwaith ymchwil gwyddonol a hanesyddol er budd y cyhoedd. Mae’n ddarostyngedig i brosesau GDPR diogelu y DU Erth.6.1(e) ac Erth. 9.2(j).
Data personol megis gwybodaeth am anableddau.   Sicrhau iechyd a diogelwch a lles pob cyfranogwr sy’n ymgysylltu â’r prosiect. Cynorthwyo ag anghenion bugeiliol a lles, er enghraifft sicrhau ein bod ni’n effro unrhyw cyflyrau meddygol ac anableddau.– Mae prosesu’n hanfodol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r Rheolwr Data yn ddarostyngedig iddi hi.
– Mae rhaid prosesu data Categorïau Arbennig am resymau sy’n profi eu bod nhw o fudd sylweddol i’r cyhoedd.  Mae hyn yn seiliedig ar y dyletswyddau sydd wedi’u nodi yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (DU GDPR Erthygl 9(2) (g))
Deddf Diogelu Data 2018, c.12 Atodiad 1, Rhan 2, Paragraff 10 “Atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon” a Deddf  Diogelu 2018, c.12 Atodiad 1, Rhan 2, Paragraff 16 “Cymorth i unigolion ag anabledd penodol neu gyflwr meddyliol”.
Data personol megis gwybodaeth am ethnigrwydd. [GO1] [GT2] I ddeall os ydy hunaniaeth rhywedd yn effeithio ar agweddau pobl tuag at ddysgu STEM. Mae hyn yn rhoi cymorth i’r prosiect i ddeall yn well y rhwystrau sy’n bodoli mewn perthynas â dysgu STEM. Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad ar gyfer ymchwil y cyhoedd a gafodd ei sefydlu gan siarter frenhinol i wella gwybodaeth ac addysg trwy ei weithgareddau ymchwil ac addysgu. Yn sgil hynny, caiff data personol eu prosesu ar y sail eu bod yn angenrheidiol i gyflawni ein tasg i’r cyhoedd, ar gyfer dibenion gwaith ymchwil gwyddonol a hanesyddol er budd y cyhoedd. Mae’n ddarostyngedig i brosesau GDPR diogelu y DU Erth.6.1(e)  ac Erth. 9.2(j).
Manylion banc sy’n cael eu rhannu gan fyfyrwyr trwy Ffurflen Microsoft neu ffurflen treuliau sy’n cael eu coladu gan y tîm a/neu dîm cyllid PHYSX.Er mwyn gweinyddu arian i fyfyrwyr prifysgol sy’n cymryd rhan yn y prosiect, er enghraifft i dalu bwrsariaethau ac ad-daliadau teithio.  Erth.6 1 (b) “mae prosesu’n hanfodol ar gyfer perfformiad contract y mae perchennog y data’n rhan ohono, neu er mwyn cymryd camau yn sgil ceisiadau am destun y data cyn ymrwymo i gontract”.
Data personol megis  a enw a chyfeiriad e-bost trwy holiadur ar-lein neu copi papur o holiadur.Anfon gwybodaeth berthnasol ac angenrheidiol ynglŷn â gweithgareddau sydd ar y gweill yn ogystal â chyfathrebiadau marchnata.  Erth 6.1 (a) “mae perchennog y data wedi rhoi caniatâd i’w (d)data gael eu prosesu at un neu ragor o ddibenion penodol”.
Data Tramgwydd Troseddol myfyrwyr trwy wiriadau manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.I ddiogelu plant ac unigolion sy’n agored i niwed mewn perthynas â natur y gwaith bydd y myfyrwyr sy’n cymryd rhan y prosiect yn ei wneud.  Mae rhagor o wybodaeth isod.Erth.6.1 (e) “mae prosesu’n angenrheidiol i berfformiad tasg sy’n cael ei gynnal er budd y cyhoedd neu wrth weithredu awdurdod swyddogol y mae’r rheolwr yn meddu arno”.
Diogelu Plant ac Unigolion sy’n Agored i Risg (Amod 18 DPA Atodiad 1).
– Deddf Diogelu Data 2018, c.12 Atodiad 1, Rhan 2, Paragraff 10. Deddf Diogelu Data 2018, c.12 Atodiad 1, Rhan 2, Paragraff 10 “Atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithiol” a Deddf Diogelu Data 2018 c.12, Atodiad 1, Rhan 2 Paragraff 11 “amddiffyn y cyhoedd rhag anonestrwydd”
  1. Rhannu eich data personol

Weithiau, bydd angen i ni drefnu bod eich data personol ar gael i sefydliadau eraill. Gallai’r rhain gynnwys partneriaid o dan gontract (yr ydym wedi’u cyflogi i brosesu eich data personol ar ein rhan) a/neu sefydliadau eraill (y mae angen i ni rannu eich data personol â nhw at ddibenion penodol). Pan fydd angen i ni rannu’ch data personol ag eraill, byddwn yn sicrhau bod hyn yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Prifysgol Caerdydd yw’r prif gorff a fydd yn prosesu eich data.

Mae ein partneriaid yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru (https://llyw.cymru/). Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect.
  • Llysgenhadon STEM (https://www.stem.org.uk/stem-ambassadors). I gwblhau gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer mentoriaid.
  • Reaching Wider (reachingwider.org). Mae Reaching Wider yn ariannu rhai ysgolion partner i ymgysylltu â’r prosiect. Bydd ysgolion yn gwbl ymwybodol o hyn os ydy hynny’n berthnasol iddyn nhw.  
  • Ondata Research Ltd (http://ondata.org.uk/). Mae’r cwmni yma’n rhoi cymorth gydag elfennau gwerthuso’r prosiect. Pan fydd data’n cael eu rhannu, mae cytundeb rhannu data yn ei le.
  • Prifysgol a/neu ysgol. Er mwyn rhoi cymorth i fentoriaid a dysgwyr sy’n ymgysylltu â’r prosiect.  
  • Arweinwyr Consortia. Er mwyn rhoi cymorth i athrawon ac ysgolion sy’n ymgysylltu â’r prosiect.   

Gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Rhaid i’r holl fyfyrwyr lenwi wiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd drwy Lysgenhadon STEM. Mae hyn yn rhan o brosesau’r prosiect cyn ymweld ag ysgolion neu golegau partner. Mae hawl gan unrhyw unigolyn sydd ddim eisiau llenwi Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wrthod cwblhau’r gwiriad yma. Fodd bynnag, mae hynny’n golygu na fydd modd i’r unigolyn dan sylw gymryd rhan mewn unrhyw rhan o’r rhaglen sy’n cael ei darparu gan Mentora Ffiseg.

Mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth sy’n cael ei darparu yn rhan o’r Gwiriad Datgelu a Gwahardd yn cael ei rhannu ag ysgolion sy’n ymgysylltu â’r prosiect, ac o bryd i’w gilydd mi fydd yn bendant yn cael ei rhannu â’r ysgolion hynny. Bydd unigolion yn cael gwybod o flaen llaw ynglŷn ag unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhannu rhwng Mentora Ffiseg ac ysgolion partner.

Achrediad

Os ydych chi’n fentor sy’n cwblhau’r uned achredu, bydd y manylion a roddwch hefyd yn cael eu rhannu â’r partneriaid canlynol er mwyn prosesu a dyfarnu eich uned:

  1. How long we will keep your personal data

Fydd Prifysgol Caerdydd ddim yn cadw eich data personol am gyfnod hirach nag sydd angen ar gyfer y diben. Mae’r tabl isod yn nodi gwybodaeth am wybodaeth bersonol sy’n cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil.

DisgrifiadCyfnod Cadw’r DataNodiadau
Cofnodion ymchwil data a data sy’n tarddu o prosiectau ymchwil iechyd sydd ddim yn glinigol nac a gyfer y cyhoeddRhaid cadw data am gyfnod o 5 mlynedd o leiaf ar ôl cwblhau’r prosiect* neu ar ôl cyhoeddi unrhyw ganfyddiadau sy’n seiliedig ar y data (pa bynnag un yw’r hwyraf).

*Diffinnir diwedd prosiect fel cwblhau’r adroddiad sy’n dod â’r prosiect i ben neu gyhoeddi’r erthyglau terfynol.
Os daw unrhyw batentau i’r amlwg o’r ymchwil, efallai bydd raid cadw’r data am gyfnod hwy.        
  1. Diogelwch Data

Mae deddfwriaeth diogelu data’n gofyn ein bod ni’n cadw eich gwybodaeth chi’n ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu, ac y bydd pob mesur addas yn cael ei gymryd i sicrhau atal mynediad a datgeliad heb awdurdod.

Dim ond aelodau staff sydd angen mynediad i rannau perthnasol o’ch gwybodaeth fydd â’r awdurdod i wneud hynny. Bydd projectau dilysu aml-ffactor wedi’u gosod ar gyfrifon yr holl staff a chanddynt fynediad at unrhyw ddata personol sy’n cael ei gadw’n electronig. Bydd ffeiliau papur yn cael eu storio mewn mannau diogel lle mae mynediad wedi’i reoli.

Bydd unrhyw ddogfennau sy’n cael eu rhannu â phartneriaid Mentora Ffiseg ac sy’n cynnwys data a all gael eu defnyddio i adnabod unigolyn, wedi’u diogelu â chyfrinair. Bydd y cyfrinair yn cael ei rannu mewn e-bost ar wahân i’r ddogfen sy’n cynnwys y data. Bydd ysgolion yn derbyn data sy’n cynnwys gwybodaeth a all gael eu defnyddio i adnabod unigolion, ond ar gyfer eu dysgwyr nhw yn unig. Bydd y data yma’n cael eu rhannu gyda’r athro cyswllt er mwyn pennu pa ddysgwyr ddylai ymgysylltu â’r projectau sydd ar gael. Bydd yr holl ddata arall yn hollol anhysbys a does dim data arall a all gael eu defnyddio i adnabod unigolion yn cael eu rhannu â phartneriaid.

  1. Eich hawliau diogelu data

O dan deddfwriaeth diogelu data, mae rhai hawliau gyda chi sy’n ymwneud â’ch data personol. Efallai bydd rhai o’r rhain yn gyfyngedig, yn dibynnol ar yr amgylchiadau. Mae gwybodaeth am hyn ar gael ar wefan Prifysgol Caerdydd: https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection/your-data-protection-rights.

Yn y lle cyntaf, dylech chi e-bostio physicsmentoring@caerdydd.ac.uk gyda’ch cais:

  • i gael eich data personol wedi’u cywiro, os yw’n anghywir neu’n anghyflawn
  • i gyfyngu ar sut rydyn ni’n prosesu’ch data personol
  • i dynnu cydsyniad yn ôl at ddibenion marchnata uniongyrchol.
  1. Tynnu cydsyniad yn ôl a’r hawl i wneud cwyn

Pan fyddwn yn prosesu eich data personol gyda’ch cydsyniad, mae gennych yr hawl i dynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl drwy e-bostio physicsmentoring@caerdydd.ac.uk.

Os na fyddwch yn hapus â’r ffordd rydyn ni’n defnyddio’ch data personol, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â physicsmentoring@caerdydd.ac.uk yn y lle cyntaf. Os byddwch chi’n parhau i fod yn anfodlon, cysylltwch â DPO Prifysgol Caerdydd  inforequest@caerdydd.ac.uk a nodi enw’r prosiect hwn. Fel arall, mae gennych yr hawl i roi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) am unrhyw bryderon trwy fynd i’w gwefan https://ico.org.uk/concerns/.

  1. Diweddarwyd diwethaf

Efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd, felly argymhellwn eich bod yn adolygu’r wybodaeth hon bob hyn a hyn. Diweddarwyd y fersiwn hon ddiwethaf ar 13 Mawrth 2024.

  1. Gwybodaeth gysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, cysylltwch â thîm prosiect yn physicsmentoring@caerdydd.ac.uk.