Ni fyddai’n bosib cynnal y Prosiect Mentora Ffiseg heb ein tîm o fentoriaid ymroddgar a brwdfrydig bob blwyddyn.

Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, y Brifysgol Agored, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, neu Brifysgol Wrecsam yw ein mentoriaid.

Mae gan bob mentor gymhwyster ôl-16 yn y gwyddorau ffisegol. Mae’r prosiect yn cynnal penwythnos hyfforddi deuddydd bob blwyddyn, sy’n cael ei gynnal gan bartneriaid achrededig Agored Cymru, CreoSkills.

Bob blwyddyn, byddwn yn sicrhau bod ein carfan o fentoriaid yn dod o ystod eang o gefndiroedd, er mwyn hyrwyddo modelau rôl amrywiol a chyflawni ein nodau o gynyddu nifer y merched sy’n astudio ffiseg. Mae’r mentoriaid sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect wedi astudio ystod eang o bynciau, gan gynnwys Cyfrifiadureg, Troseddeg, Saesneg, Peirianneg, Mathemateg, a Meddygaeth. Mae ein carfan yn cynnwys siaradwyr Cymraeg, myfyrwyr rhyngwladol, a mentoriaid sydd wedi bod yn gweithio gyda ni ers rhai blynyddoedd. Mae pob un ohonynt yn frwdfrydig ac yn angerddol ynghylch ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wyddonwyr.

Mae croeso ichi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth hefyd.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer 2024-25 wedi dechrau!

Dyddiad Cau:: 23:59 29 Medi 2024

Os ydych chi’n ystyried dod yn fentor ar gyfer y Prosiect Mentora Ffiseg, cewch fwy o wybodaeth am y swyddogaethau a’r cyfrifoldebau yma: