Hyd yma, mae’r prosiect wedi gweithio gyda 36% o ysgolion uwchradd Cymru, gan ddarparu 7,430 awr o fentora i dros 1,400 o fentoreion.

Rydym yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru, gan gynnig mentora rhithwir i’r rhai sy’n rhy bell oddi wrth brifysgolion partner, fel bod y mentora’n hygyrch i bawb. Cyflwynwyd mentora cyfunol yn 2022-23 i roi cyfle i ysgolion sydd ymhellach i ffwrdd gael rhywfaint o fentora wyneb yn wyneb.

Mae croeso ichi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth hefyd.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer 2024-25 wedi dod i ben am y tro.

Os ydych yn athro, yn Bennaeth Gwyddoniaeth, neu’n Bennaeth, ac mae gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect, cofrestrwch eich diddordeb yma. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os bydd unrhyw leoedd yn dod ar gael, a phan fydd y cyfnod ymgeisio’n dechrau ar gyfer y Cylch mentora nesaf.

Os ydych yn athro, yn Bennaeth Gwyddoniaeth, neu’n Bennaeth, cewch fwy o wybodaeth am y mathau o fentora rydym yn eu cynnig a chyfrifoldebau ysgolion ar ein prosiect yma:

Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar draws holl gonsortia Cymru:

Map of Welsh educational consortia.
  • CCD yng Nghanol De Cymru
    • Yn gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg
  • GCA yn Ne-ddwyrain Cymru
    • Yn gwasanaethu Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen
  • Partneriaeth yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru
    • Yn gwasanaethu Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
  • GwE yng Ngogledd Cymru
    • Yn gwasanaethu Sir y Fflint, Conwy, Wrecsam, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych
  • PCC yng Nghanolbarth Cymru
    • Yn gwasanaethu Powys a Cheredigion
  • Castell-nedd Port Talbot