Mae cangen newydd gyffrous o fentora Safon Uwch wedi’i hychwanegu at Fentora Ffiseg yn Ebrill 2024!
Beth yw Cysylltiadau Pellach?
Mae Cysylltiadau Pellach yn gyfle tiwtora a mentora ar-lein sydd ar gael yn rhad ac am ddim dros gyfnod o flwyddyn i fyfyrwyr Blwyddyn 12 sy’n astudio Ffiseg yng Nghymru. Mae’r prosiect peilot hwn yn cael ei arwain gan y Prosiect Mentora Ffiseg arobryn mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe.
Mae Cysylltiadau Pellach yn rhedeg ochr yn ochr ag astudiaethau Safon Uwch myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn derbyn tiwtorialau academaidd sy’n cefnogi’r cwricwlwm Safon Uwch, yn ogystal â sesiynau mentora sy’n darparu gwybodaeth am gwblhau cais, paratoi ar gyfer, a chael profiad o brifysgol.
Mae’r prosiect hwn ar gyfer myfyrwyr ysgol sydd ym Mlwyddyn 12 sy’n astudio Lefel A Ffiseg, sydd â diddordeb mewn astudio gwyddorau ffisegol yn y brifysgol. Rydym yn blaenoriaethu myfyrwyr sy’n dod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.
Nod y prosiect Cysylltiadau Pellach yw buddio myfyrwyr Safon Uwch trwy:
- Cefnogi mentoreion i gyflawni’r graddau sydd eu hangen i astudio ffiseg a phynciau cysylltiedig â ffiseg yn y brifysgol.
- Rhoi cyfle i fentoreion gwrdd â myfyrwyr prifysgol o wahanol brifysgolion ledled Cymru.
- Darparu cefnogaeth a gwybodaeth ar sut i gwblhau cais i brifysgol a pharatoi ar gyfer bywyd prifysgol.
Mae’r prosiect peilot hwn wedi’i ariannu’n garedig gan Tony Hill, sy’n cefnogi Levelling Up: STEM yn Lloegr.
Sut mae’n gweithio?
Mae ein Mentoriaid Ffiseg yn fyfyrwyr prifysgol sy’n astudio cwrs gwyddoniaeth ffisegol yn Aberystwyth, Caerdydd, neu Brifysgol Abertawe sydd wedi derbyn hyfforddiant mentora penodol. Gosodwn dau Fentor gyda phob grŵp bach o fyfyrwyr Blwyddyn 12 i gynnal sesiynau tiwtora a mentora rheolaidd ar draws y flwyddyn. Mae mentoriaid yn cyflwyno sesiynau ar-lein 60 munud o hyd yn ystod y flwyddyn. Mae tri math gwahanol o sesiwn yn cael eu cyflwyno:
- Tiwtorialau Ffiseg
- Bydd myfyrwyr yn derbyn deunyddiau hunan-astudio i weithio drwyddynt wythnos o flaen llaw’r sesiwn.
- Gallai’r deunyddiau hyn gynnwys pwnc, problem, neu weithgaredd i’w ymchwilio neu ei gwblhau.
- Yna bydd myfyrwyr yn mynychu tiwtorial awr o hyd gyda’u Mentoriaid Ffiseg i weithio trwy’r deunyddiau.
- Sesiynau Mentora
- Bydd y sesiynau hyn yn ymdrin ag agweddau amrywiol i helpu myfyrwyr i gwblhau cais a pharatoi ar gyfer y brifysgol.
- Gallai sesiynau enghreifftiol gynnwys prosesau ymgeisio, paratoi i symud i brifysgol, a bywyd prifysgol.
- Sesiynau Carfan Cyfunol
- Bydd rhai sesiynau carfan gyfan (gan gynnwys pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn mentora) drwy gydol y flwyddyn ar agweddau megis datganiadau personol, cyllid myfyrwyr, a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.
Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer 2024-25 wedi dod i ben am y tro.
Os ydych yn astudio Ffiseg Safon Uwch ac mae gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect, mae croeso ichi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth hefyd.
Darganfyddwch fwy am y prosiect a meini prawf cymhwysedd isod: