Ein prosiect peilot newydd gyda’r nod o hyrwyddo llwybrau amgen i STEM
Beth sy’n Archwilio Cysylltiadau?
Sefydlwyd Archwilio Cysylltiadau i amlygu’r llwybrau wahanol i ffiseg a STEM, gan barhau i wneud ffiseg yn berthnasol i fywydau myfyrwyr ysgol a’n tynnu sylw at gyfleoedd cyflogaeth STEM yn yr ardal leol.
Beth rydyn ni wedi’i wneud hyd yn hyn?
Lansiwyd y prosiect peilot hwn gyda digwyddiad diwrnod cyfan yng Ngholeg y Cymoedd, lle gwahoddwyd bum cyflogwr STEM lleol i weithio gyda myfyrwyr TGAU mewn gweithgareddau “ymarferol”. Darllenwch am sut aeth ein digwyddiad yma.
Beth ydyn ni’n bwriadu ei wneud?
Ac yn edrych at ddyfodol Archwilio Cysylltiadau, mae’r tîm yn paratoi i gynhyrchu fideo byr am fod yn brentis mewn STEM i annog pobl ifanc i ystyried llwybrau amgen i yrfaoedd STEM. Cadwch olwg allan amdano!
Sut alla i gymryd rhan?
Os ydych chi’n gyflogwr STEM ac mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect hwn, cysylltwch â ni.