Nod y Prosiect Mentora Ffiseg yw cynyddu’r nifer sy’n astudio Safon Uwch Ffiseg yng Nghymru a gwella agwedd disgyblion tuag at wyddoniaeth. Ariennir y prosiect ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau partner.

Yn y prosiect hwn, ein hamcanion yw:

Disgyblion Ysgol
  • Cynyddu nifer y disgyblion sy’n bwriadu astudio ffiseg ôl-16
    • Yn benodol, cynyddu nifer y merched sy’n bwriadu astudio Ffiseg ôl-16
  • Tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy a hyrwyddo gyrfaoedd ym maes STEM i ddisgyblion ysgol
  • Gwella hyder a chadernid myfyrwyr ysgol sy’n astudio Ffiseg
Myfyrwyr sy’n Mentora a Phrifysgolion
  • Hyrwyddo gyrfaoedd dysgu i fyfyrwyr prifysgol israddedig ac ôl-raddedig
  • Gwella hyder, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a rhoi profiad ar gyfer eu CV i fyfyrwyr sy’n mentora
Ysgolion ac Athrawon
  • Gwella hyder athrawon Ffiseg yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar athrawon Ffiseg anarbenigol
  • Annog newid o ran diwylliant yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan, i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws y cwricwlwm
  • Ymgysylltu ag ysgolion uwchradd ledled Cymru

Y gobaith yw y bydd y prosiect yn darparu profiadau addysgiadol a chyfoethogol i ddisgyblion a mentoriaid. I gael gwybod pam mae hyn yn bwysig ar gyfer ffiseg yng Nghymru, gallwch ddarllen mwy am ein cefndir, neu am ein gwaith i gyflawni ein nodau.