Trwy’r Prosiect Mentora Ffiseg, mae myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig hyfforddedig yn gweithio gydag ysgolion uwchradd ledled Cymru, gan fentora ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol.
Mae ein mentoriaid yn fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o chwe phrifysgol ledled Cymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, a Phrifysgol De Cymru). Mae gan bob mentor gymhwyster Ffiseg ôl-16 (neu gymhwyster ôl-16 yn y gwyddorau ffisegol). Mae’r prosiect yn cynnal penwythnos hyfforddi deuddydd bob blwyddyn sy’n cael ei ddarparu gan ein partneriaid achrededig Agored Cymru, CreoSkills.
Yna caiff parau o fentoriaid eu paru ag ysgolion uwchradd ledled Cymru. Maent yn mentora hyd at ddeuddeg o ddisgyblion Blwyddyn 9 – 11 ar draws chwe sesiwn fentora, naill ai’n cael eu cynnal yn yr ysgol, ar-lein, neu mewn fformat cyfunol. Mae dau gylch o fentora bob blwyddyn academaidd: Hydref i Ragfyr a Chwefror i Ebrill. Cynhelir seremonïau Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth ar gyfer mentoriaid, mentoreion ac athrawon ar ddiwedd pob blwyddyn mewn sefydliadau partner.
Mae’r adnoddau mentora wedi’u dylunio a’u creu yn seiliedig ar y Dull Addysgu Cyfalaf Gwyddoniaeth (SCTA). Cyd-ddatblygwyd y SCTA gan ymchwilwyr ac athrawon uwchradd ledled Lloegr, a’i nod yw cynyddu “cyfalaf gwyddoniaeth” disgyblion (yr holl wybodaeth, agweddau, profiadau a chysylltiadau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth sydd gan berson).
Mae tystiolaeth yn dangos bod y dull hwn:
- Yn gwella dealltwriaeth a gallu disgyblion i gofio gwybodaeth wyddonol
- Helpu disgyblion i ganfod gwyddoniaeth yn fwy personol berthnasol
- Yn dyfnhau gwerthfawrogiad disgyblion o wyddoniaeth
- Yn ehangu ac yn cynyddu ymgysylltiad disgyblion â gwyddoniaeth mewn gwersi
- Gwella ymddygiad disgyblion yn ystod gwersi gwyddoniaeth
- Cynyddu cyfran y disgyblion sy’n gweld eu hunain yn “wyddonol”
Dechreuodd y prosiect yn 2018 ac ers hynny mae wedi rhedeg 8 cylch o fentora, wedi’u gwerthuso’n drylwyr gan OnData Research LTD er mwyn sicrhau bod nodau’r prosiect yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus. Gallwch ddarllen ein hadroddiadau gwerthuso yma.
Cawn ein hariannu’n garedig gan Lywodraeth Cymru a’n sefydliadau partner ledled Cymru.