Nod y Rhaglen Mentora Ffiseg yw cynyddu’r nifer sy’n astudio ffiseg yng Nghymru a gwella agweddau disgyblion tuag at wyddoniaeth, drwy hyfforddi myfyrwyr prifysgol i fentora disgyblion mewn ysgolion a cholegau.
Mae gan Ffiseg enw am fod yn bwnc anodd. Yn aml mae myfyrwyr a’u rhieni’n methu gweld manteision y pwnc, gan gynnwys y sgiliau trosglwyddadwy a gyrfaoedd posibl. Nod y Rhaglen Mentora Ffiseg arobryn yw mynd i’r afael â hyn er mwyn cyfrannu at hybu economi a chyfoeth Cymru yn y dyfodol.
Mae Mentora Ffiseg yn credu:
- Mae Ffiseg yn berthnasol i bob bywyd, a dylai fod ar gael i bawb sy’n dymuno ymgysylltu â hi, waeth beth fo’u cefndir, eu nodweddion gwarchodedig, na’u gallu academaidd.
- Gall sgiliau ffiseg gynyddu gallu unigolyn i berthyn mewn cymdeithas, cynyddu budd economaidd, ac arwain at nifer anfesuradwy o yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o feysydd.
Darllenwch fwy am nodau’r prosiect, sut rydym wedi’u cyflawni, a sut rydym yn bwriadu parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau.
Mae gan y rhaglen dri phrosiect cangen i annog pobl ifanc i gymryd ffiseg ôl-16:
Mentoring Year 9-11 Pupils
Yng Nghymru, mae llai o bobl yn astudio Ffiseg fel cymhwyster Safon Uwch o gymharu â phynciau STEM eraill. Yn 2022-23, dim ond 23% o gofrestriadau Safon Uwch STEM oedd ar gyfer Ffiseg. Yn ogystal, mae diffyg amlwg o ferched yn astudio ffiseg o gymharu â bioleg neu gemeg ar lefel Safon Uwch – dim ond 22% o gofrestriadau ffiseg sy’n ferched.
Mae’r Prosiect Tyfu Cysylltiadau yn darparu mentora cyfoedion agos i grwpiau bach o ddisgyblion Blwyddyn 9 – 11 mewn ysgolion ledled Cymru gyda’r nod o gynyddu’r nifer sy’n astudio Ffiseg Safon Uwch (yn benodol y nifer o ferched sy’n dewis astudio’r pwnc). Mae mentoriaid yn fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o sefydliadau partner, ac mae sesiynau’n seiliedig ar y Dull Addysgu Cyfalaf Gwyddoniaeth.
Mae’r prosiect, sy’n adeiladu ar lwyddiannau’r Cynllun Mentora Ieithoedd Tramor Modern (ITM) arobryn, yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan wyth prifysgol: Prifysgol Abertawe, y Brifysgol Agored, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol Wrecsam. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a’r sefydliadau partner hyn, ac fe’i cefnogir yn llawn gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.
Mentoring A-level Physics Pupils
Mae Cysylltiadau Pellach yn gyfle tiwtora a mentora ar-lein sydd ar gael yn rhad ac am ddim dros gyfnod o flwyddyn i fyfyrwyr Blwyddyn 12 sy’n astudio Ffiseg yng Nghymru. Mae’r prosiect peilot hwn yn cael ei arwain gan y Prosiect Mentora Ffiseg arobryn mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe.
Mae Cysylltiadau Pellach yn rhedeg ochr yn ochr ag astudiaethau Safon Uwch myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn derbyn tiwtorialau academaidd sy’n cefnogi’r cwricwlwm Safon Uwch, yn ogystal â sesiynau mentora sy’n darparu gwybodaeth am gwblhau cais, paratoi ar gyfer, a chael profiad o brifysgol.
Nod y prosiect Cysylltiadau Pellach yw buddio myfyrwyr Safon Uwch trwy:
- Cefnogi mentoreion i gyflawni’r graddau sydd eu hangen i astudio ffiseg a phynciau cysylltiedig â ffiseg yn y brifysgol.
- Rhoi cyfle i fentoreion gwrdd â myfyrwyr prifysgol o wahanol brifysgolion ledled Cymru.
- Darparu cefnogaeth a gwybodaeth ar sut i gwblhau cais i brifysgol a pharatoi ar gyfer bywyd prifysgol.
Mae’r prosiect peilot hwn wedi’i ariannu’n garedig gan Tony Hill, sy’n cefnogi Levelling Up: STEM yn Lloegr.
Encouraging Alternative Routes into Physics
Mae Archwilio Cysylltiadau yn brosiect peilot newydd sbon sy’n canolbwyntio ar llwybrau wahanol i ffiseg a STEM, gan barhau i wneud Ffiseg yn berthnasol i fywydau myfyrwyr ysgol. Mae’r prosiect hwn wedi cynnal rhai Digwyddiadau Gyrfaoedd STEM, gan wahodd cyflogwyr STEM lleol i weithio gyda myfyrwyr TGAU mewn gweithgareddau ymarferol.
Ac yn edrych at ddyfodol Archwilio Cysylltiadau, mae’r tîm yn paratoi i gynhyrchu fideo byr am fod yn brentis mewn STEM.
Tynnwyd o StatsCymru